Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/166

Gwirwyd y dudalen hon

holl eiddo i yn ngwaelod y môr. Effeithiodd hyn yn fawr arnaf, a bu agos i mi golli y dydd. Buasech chwi wedi cael llythyr cyn hwn, ond nid oedd neb yn gwybod pa le i ysgrifenu. Cewch lythyr eto cyn hir. Cofion serchog atoch oll. Rhowch y nodyn bach sydd oddifewn i Susan

Eich anwyl fab,
BENJA

AIL DDECHREU BYW.

Mendiodd Benja yn rhagorol. Nis gwyddai beth i'w wneyd. Nid oedd am fyned adref yn dlawd, ac nid oedd chwaith am fyn'd yn ol i'r cloddfeydd aur—yr oedd yn fywyd rhy anuwiol ganddo. Tra yn yr hospital, deuai i edrych am dano weinidog perthynol i un o gapelau Melbourne, yr hwn, wedi clywed hanes Benja, a gymerodd ato yn fawr. Rhyw foreu, pan yr oedd Benja ar ymadael o'r clafdy, daeth ei gyfaill ato â llythyr yn ei law, a dywedai," Cefais lythyr heddyw oddiwrth foneddwr yn Tasmania. Amaethwr cyfoethog ydyw, heb na châr na pherthynas yn y byd. Y mae ganddo tua haner can' mil o ddefaid, ac y mae arno eisieu i mi recomendio bachgen da a gonest fel overseer iddo: leiciech chi fyn'd? Rhaid cychwyn yn ddioed." Neidiodd Benja at y cynygiad, ac ymaith ag ef. Buasai yn dda genyf ddilyn ein harwr i sheep walks Mr. Smith yn Tasmania. Dyno Yorkshire oedd ei feistr, ac wedi bod allan er's dros ugain mlynedd. Aeth Mr. Smith yn hoff iawn o Benja, a phenderfynodd ei fabwysiadu fel ei fab ei hun, a gadael ei holl gyfoeth iddo. Cymerodd anwyd trwm rhyw noson, ac mewn ychydig o ddyddiau yr oedd Benja yn unig, ond yn berchen eiddo mawr. Meddyliodd unwaith am yru am ei dad a'i fam a Susan a'i mam i ddyfod drosodd ato; ond "hen Gymru fynyddig i mi" oedd hi gyda Benja. Gwerthodd yr holl eiddo mor fuan ag yr oedd modd, a rhoddodd yr arian yn saff yn y banc i'w trosglwyddo i Lundain. Penderfynodd droi tuag adref; ond yr oedd y tro hwn am fyned heb ysgrifenu, rhag digwydd ail siomedigaeth. Aeth i