Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/167

Gwirwyd y dudalen hon

Melbourne, cymerodd bassage, a glaniodd yn Lerpwl ar ddydd Gwener y Groglith. Cafodd gan gyfaill i ysgrifenu i'r Bwthyn Gwyn i ddyweyd fod cyfaill i'r mab newydd ddyfod o Awstralia, a bod ganddo barsel iddynt, ac y byddai yn galw gyda hwy tua wyth o'r gloch nos Sadwrn. Gofynai hefyd am iddynt ofyn i Miss Susan Morris ddyfod yno i'w gyfarfod; ei fod wedi clywed Benja yn sôn llawer am dani, a bod ganddo genadwri neillduol iddi hi.

YN Y BWTHYN GWYN ETO.

Cafodd Susan ganiatad rhwydd iawn i fyn'd adref i dreulio y Pasg, a chafodd groesaw gan ei mam a rhieni Benja. Toc ar ol i'r hen gloc gwyneb pres daro wyth, dyma gerbyd yn aros wrth lidiart yr ardd, a'r gyrwr yn neidio i lawr, ac yn gwaeddi, "Hwn ydi ty William Tomos?" Yr oedd yr hen wr a Susan wrth y drws yn y fan. Daeth gŵr dieithr i lawr o'r cerbyd-dyn talgryf, esgyrniog, gyda barf fawr, a hono wedi britho gryn dipyn. Ar ol ysgwyd llaw gyda'r ddau aeth yn mlaen at y tân, lle yr oedd Betsan Tomos yn eistedd yn methu symud, a mam Susan yn sefyll yn ymyl ei chadair. "Sut yr ydach chi heddyw, Mrs. Thomas?" meddai'r gwr diarth. Edrychodd yr hen wraig yn myw ei lygad, neidiodd i fyny, anghofiodd ei chrydcymalau, a gwaeddodd, Benja bach, y ti wyt ti: fedar neb dwyllo mam. 'Roedd breichiau cryfion y mab oddiamgylch ei hen fam mewn eiliad, ac yn ei rhoddi i eistedd yn esmwyth yn y gadair. Yr oedd William Tomos wedi myn'd i gau y llidiart ar ol y cerbyd. Ond yn lle yr oedd Susan? Wel, yr oedd wedi syrthio yn un swp i'r gadair, a'i mham yn sychu y chwys oer oddiar ei gwyneb; ond Benja oedd y doctor goreu, a buan iawn yr oedd Susi yn gorphwys ei phen ar ei fynwes. Pan ddaeth yr hen ŵr i'r ty golygfa ryfedd a gyfarfyddodd ei lygaid, ac nis gwyddai pa un ai llesmeirio ai dawnsio oedd y goreu iddo. Ond y peth a wnaeth oedd disgyn ar ei ddeulin wrth yr hen gadair