Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/169

Gwirwyd y dudalen hon

HEN GOLEG Y BALA.

Y COSYN A'R GINGER WINE.

DIGWYDDODD llawer tro lled ddigrif yn y blynyddoedd 1848—50. Dyma un stori fach glywais gan un o fyfyrwyr 1848, un o bregethwyr mwyaf Cymru sydd yn awr yn nghanol y nefoedd. "Yr oedd dau ohonom," meddai, " yn lletya efo hen weddw dduwiol arferai gadw tipyn o westy, lle y troai llawer ar ddiwrnodau marchnad a ffeiriau i gael tamaid. Pan y byddai priodas o'r wlad byddai y gwahoddedigion yn aml yn troi i dy yr hen weddw i gael tipyn o biscuits a ginger wine (dirwestol, wrth gwrs). Rhyw ddiwrnod derbyniodd un ohonom gosyn cartref bychan yn bresent, a mawr oedd ein llawenydd, oblegid nid rhyw lawer o gaws nac enllyn sut yn y byd syrthiai i ran myfyrwyr 48 (gobeithiaf fod mwy y dyddiau hyn). Wel, mewn rhyw ddiwrnod neu ddau gwelsom fod rhyw 'lygoden' fach ddeudroed wedi bod yn helpu ei hunan a'r cosyn. Parodd hyn gryn ofid i ni, oblegid ni wyddem ar wyneb y ddaear o ba le y deuai y cosyn nesaf. Rhoddasom ein penau wrth eu gilydd i solfio y problem—yr oedd Euclid yn un o destynau ein hefrydiaeth y pryd hyny. Daeth drychfeddwl godidog i fy mhenglog, sef gwneyd marc round y cosyn gyda phensil led, haner modfedd o'r pen oedd wedi ei dori. Wel, meddwn wrth fy nghydfyfyriwr, os bydd marc y pensil wedi myn'd erbyn yfory, yna fe gymerwn ninau lasied bob un o'r ginger wine sydd yn y cwpbwrdd yna, dyna be ydi 'a Roland for an Oliver,' wyddost ti, John. Pan ddaethpwyd a'r cosyn i fewn i'n swper, yr oedd rhyw bechadur wedi croesi y line, nid yr equator, ond line y cosyn, ac felly yr oedd yn rhaid cael iawn. Pan aeth yr hen weddw dduwiol i'w. gwely, aethum inau i'r cwpwr cornel, ac aeth John i'r gegin i 'mofyn tipyn o ddwfr poeth, a gwnaethom i ni ein hunain dipyn o bwnch diniwed, oblegid oer iawn