CWMWL DUDEW.
Y brofedigaeth fawr nesaf oedd marwolaeth fy nhad, pan oeddwn yn brin ddeg oed, a'r hynaf o bedwar o fechgyn, gydag un chwaer ychydig hyn na mi. Newidiwyd ein holl ragolygon, a bu raid tori y cylch teuluaidd pan oedd rhai o honom yn lled ieuanc, ond gofalodd Tad yr Amddifaid a Barnwr y Weddw am danom yn lled rhyfedd. Ni fuaswn yn son am yr amgylchiad hwn eto, ond fod un digwyddiad wedi cymeryd lle yn y gladdedigaeth sydd yn newydd i'r rhai ieuengaf o'm darllenwyr. Yr oedd gryn dwrw wedi codi y pryd hyny yn mhlith Ymneillduwyr yn erbyn yr hen arferiad Pabaidd
"offrwm" mewn cynhebryngau, a'm tad a gafodd y fraint o'i gladdu gyntaf gyda chladdedigaeth cyhoeddus yn hen Eglwys Llangower heb i'r arferiad o offrwm gymeryd lle.
TROI ALLAN I'R BYD.
Cyfnod pwysig ydyw hwn yn hanes pob bachgen, gadael yr aelwyd gynes a throi allan i'r byd oer, oer, fel yr ia. Ond yr oeddwn yn llawn gobaith y cawn nerth yn ol y dydd, oblegid onid oedd y Doctoriaid Lewis Edwards a John Parry, a Griffith Jones, y blaenor, wedi rhoddi cynghorion da i mi yn y Seiat y noson cynt, ac onid oedd fy hen athraw Robert Jones, y gof, wedi gweddio yn daer droswyf wrth ddiweddu y Seiat? Onid oedd hefyd un o'r myfyrwyr oedd yn lletya yn nhý fy mam wedi gweddio droswyf ar y ddyledswydd deuluaidd y boreu y cychwynwn, a'm mam, fy chwaer, a'm brodyr bach, wedi addaw cofio am danaf bob nos a boreu? Oeddwn, yr oeddwn yn teimlo mor ddewr “a chawr i redeg gyrfa."
Ond nid oes dim yn y ffaith fy mod yn cychwyn oddicartref yn werth sylw, mae miloedd o fechgyn Meirion wedi gwneyd yr un peth, ac ni buaswn yn dy flino, ddarllenydd tirion, trwy gofnodi y ffaith, ond am ddau beth, sef fy mod yn cychwyn oddicartref ar y 29ain o fis Hydref, 1859, sef y diwrnod yr aeth y Royal