Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/171

Gwirwyd y dudalen hon

ohonynt nad oedd eu byrddau yn orlwythog gan ddanteithion. Struggle fawr fu hi ar lawer bachgen yn y Bala, tua deugain mlynedd yn ol, i gael y ddau ben Ilinyn yn nghyd. Ni ddywedaf fod yr un ohonynt erioed wedi dioddef eisieu bwyd, ond bu yn fain iawn ar lawer un ohonynt, ond daeth llawer ohonynt yn mlaen trwy'r cwbl, a buont yn anrhydedd i Gymru. Yr oedd y pryd hyny, foneddigesau tyner—galon yn y Bala, fel y mae yn awr, ac os clywid am un o'r bechgyn yn gorfod gwasgu arno ei hunan, buan iawn y deuai a bara a chig y boreu a bara a chig y prydnawn, fel y daeth yr aderyn hwnw a'r un luxuries i'r hen brophwyd Elias ar lan afon Cerith. Un o'r boneddigesau tirion hyny oedd Miss Owen, Ivy House. Gwahoddai y students yn eu tro, fesul dau neu dri, a red letter day fyddai hwnw yn Nyddlyfr y bechgyn. Wel, daeth tro fy hysbysydd i fyn'd yn nghwmni un o arwyr y cosyn a'r ginger wine" i Ivy House ryw noson. Bu gryn barotoi, rho'i coler lân, tipyn o olew ar y gwallt, ac felly yn y blaen. Yr oedd un o'r bechgyn yn lletya ar gyfer yr Hen Goleg, a'r llall gyda'r hen wreigan y buom yn son am dani. Edrychai y myfyrwyr ereill oeddynt yn lletya yn yr un man yn hynod o ddigalon, wrth weled y ddau fachgen lwcus yn cychwyn i'r wledd.

Cyrhaeddwyd Ivy House, a dyma y forwyn at y drws ac ebai un ohonynt,—"Ydi Miss Owen i fewn os gwelwch yn dda ?" Nag ydi yn wir, syr," meddai Dorcas. "Ydech chi yn ei disgwyl hi i fewn yn fuan," ebra y mwyaf o'r ddau. Mae arnaf ofn na ddaw hi ddim yn fuan, syr," atebai Dorcas, mae hi wedi myn'di dy Mrs.———— i swper." "O yn wir," meddai y myfyriwr oedd yn cymeryd y flaenoriaeth yn yr ymddiddan, "Dudwch wrth Miss Owen ein bod ni wedi galw, nos da Dorcas, nos dawch."

"Wel, be nawn i rwan John bach, ydi fiw i ni fyned i dy lodgin di na fy lodgin ina, ne fydd dim byw i ni, mi blagith y bechgyn acw ein eneidiau allan o'n cyrph ni."