Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/173

Gwirwyd y dudalen hon

YMWELIAD NED FFOWC A LLUNDAIN.

MAE Dei, fy mrawd, yn Llundan er's dros ugian mlynedd, yn gweithio gwaith saer. Hen lanc ydi o, yn byw mewn login, ac nid arna i fydd y bai os nad hen lanc fydd o tra bydd o byw. Mae Dei wedi safio gryn dipyn o begs, ac y mae o wedi siwṛio ei fywyd am dri chant, a does ganddo fo neb i'w gadael nhw ond i mi a'r plant,—hyny ydi, os o eiff gynta, ac os hefyd y peidith rhyw hen lefret a myn'd dros i ben o, ac wed'yn dyna hi yn ol ofar arno ni. Yr ydw i wedi deud digon wrtho fo, ac mi ddylwn i wybod yn well na fo. Rhyw fora, dyma lythyr oddiwrth Dei, eisio i mi fyn'di edrach am dano fo, ac i gael gweld priodas y Diwc o Yorc. Pan ddarllenes i y llythyr i Sara, mi drodd reit wyn yn ei gwyneb, ac mi ddylies i base hi yn cael ffit; ond mi ddoth ati hun. 'Daswn i yn myn'd i Steddfod Gigago fasa raid iddi ddim gneyd fath ffys. Ond druan o Sara, fedar hi ddim byw hebdda i—fum i ddim un noson oddi cartra er's pan briodasom,—ac y mae yn gyru ar ugian mlynedd er hyny. Wrth gwrs doedd gan Sara ddim i ddeyd yn erbyn i mi fyn'd.

"Dim iws digio Dei," medde hi. Gwell i chi fyn'd; a dyna fo wedi gyru dwy bunt i dalu'ch trên chi."

Dechreuodd Sara druan hwylio ati yn y fan i barotoi. Yr oedd eisio golchi fy nghrys main, a startsio a smwddio chêts a choleri. Ac medda hi,

"Gwell i chi bicio i'r shiop, Ned, i brynu tipyn o bethe. Rhaid i chi gael tri phâr o gybs newydd, a thei glâs gwan, a thipyn o getshi poced a border genyn nhw. Rhoswch, mi reda i i'r llofft i nol ych het silc chi, fuo hi ddim am ych pen chi er amser Sasiwn Pwllheli." Tra yr oedd Sara yn y llofft,