Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/174

Gwirwyd y dudalen hon

edrychais ina dros lythyr Dei, i mi gael bod yn siwr bryd oedd eisio i mi fyn'd; ond dyma Sara i lawr dan waeddi—

"Ned, Ned anwyl! Yr oeddwn i wedi rho'i ych het chi mewn bambocs o dan y gwely; a dai byth o'r fan yma, mi fedrodd yr hen gath i agor o! ac olwch, mae yma dair o gathod bach yn ych het chi."

Dyma y gath i'r gegin dan fewian, wedi smelio ei chathod, a dyma Sara yn troi ati yn ffyrnig—

Ysgiat, yr hen sopan, yma ti be wyt ti wedi neyd!" Ar ol tynu yr het allan a spio arni, dywedodd Sara,

"Neith hon mo'r tri i chi, Ned; mae hi mor goched a chrib ceiliog; ac mae yn amser iddi gochi ran hyny, mae hi gynoch chi er's pan ddaru ni briodi. Ydach chi yn cofio y sport guson ni efo'r het. Mi gorodd y siopwr rhyw ddwsin o focsus, ac yr oedd arno fo ofn y buasai raid iddo yru eich pen chi i Lundan i gael ei ffitio. Mae gynoch chi rhyw ben mor rhyfedd—mae'ch menydd chi i gyd un ochr. Ond ydech chi yn cofio mi gath y siopwr hyd i het o'r diwedd i'ch ffitio—het oedd hi gafodd ei hordro i ryw bregethwr Methodus, ond yr oedd rhywun wedi ei berswadio y basai jim cro yn ei siwtio yn well. Digon tebyg. Ond mi gawsoch chi fargen ar yr het. Os cewch chi dipyn o bres gan Dei ych brawd, rhaid i mi gael bonat newydd swel at Sasiwn Cnarfon, a thair o blu duon arno, a ruban feflat llydan."

'Does dim stop ar dafod Sara pan fydd hi yn son am betha fel yma, mae hi yn myn'd fel olwyn gocos. Ond dyna ydi ei hunig fai,—mae hi yn wraig o'r sort ora, ac wedi magu saith o blant,—wel, ddim wedi gorphen eu magu eto.

Ar ol cyrhaedd adref wedi cael yr het silc a'r siwt ora oedd yn y dref, gwelais fod Sara wedi bod wrthi yn ddygyn tra y bu mi i ffwrdd. Dyma hi yn dechre dangos beth oedd yn y bocs oeddwn i yn myn'd efo fi i Lundan. Wel, yr oedd ganddi bedwar