mawr; a dyma fo yn troi ata i, ac yn edrach, reit ffyrnig,
"B'le mae dy het silc di, yr hen lob? 'rwyt ti yn edrych fel Keir Hardie yn y cap yna. Ddo i gam byth efo ti."
Diawst," medda fina, “ yr ydw i wedi gadal hi ar y shilff yn y tren."
Ond yr oedd y trên wedi myn'd i rywle. Ond gwnaeth Dei bob peth yn iawn, a doth yr het i'r login erbyn wyth o'r gloch. Aeth Dei a fina i giab, a mawr oedd fy syndod wrth weled cymint o bobol—a gofynais i 'mrawd a oedd y bobol yn dwad o'r capel neu oedd yno Sasiwn. Chwarddodd Dei yn galonog, a dywedodd yr hen englyn glywes i Llew Llwyfo yn ddeud yn Eisteddfod Penygroes:—
"When Ned first landed in London,—he saw
Many wonders uncommon:
A mermaid and a Mormon,
And a neis mule from Ynys Môn."
Wel, o'r diwedd, ar ol i'r hen geffyl druan ein tynu am haner awr, dyma ni yn stopio wrth y drws. Ar ol i Dei dalu i'r dyn rhyw bisin deuswllt, a hwnw yn ei ddal o ar gledar ei law heb ddeyd un gair, ond yn gneyd rhyw wên guchiog, a ffwrdd a fo.
"Roist ti ddim digon i'r creadur, Dei," meddwn ina. Ga' i alw arno'n ol er mwyn i mi gael rho'i chwechyn iddo, i roddi extra ffid i'r hen asyn yna. Pe tase un o gariwrs y Waen neu Rhostryfan yn dreifio ceffyl fel hwna i Gnarfon, mi fasa plismyn y dre acw yn i war o fel bwldogs."
"Cau dy hen glep, y dwlyn,' meddai Dei. "Ydw i ddim wedi bod yn Llundan er's dros ugain mlynedd heb wybod faint i'w ro'i i'r hen gabis yma ? 'does dim boddloni arnyn nhw."
Erbyn hyn yr oedd Dei wedi canu y gloch, a dynes y ty login wedi agor y drws, ac yn wên o glust i glust, a