Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/177

Gwirwyd y dudalen hon

chyrls melyn bychain fel sosingiars round ei phen, a thusw ar ei thalcen fel mwng ceffyl. Mi drwg leicis i hi y fynud y gwelais hi, ac mi ddylies ei bod hi just y sort i fyn'd dros ben Dei druan. Dyma hi yn ysgwyd llaw efo mi, ac yn deyd,

"How-di-dw, Mr. Ffowcs? How is Mrs. Ffowcs and all the little Ffowcsus? Come to the parlour; tea is quite ready."

Wel, yr oedd tê yn reit barod, a chlobyn o ffinihadi mawr ar y bwrdd, a teacakes, a marmalade, ac mi steddodd mei ledi wrth ben y bwrdd, a Dei a fina un bob ochor. Yr oedd ei thafod hi yn myn'd fel olwyn gocos o hyd, ac yn gneyd rhyw lygad slei ar Dei druan. Mae hi am dano fo, myn cebyst, meddwn wrthyf fy hun, ac mi gymris y cyfle cyntaf ges i ddèyd wrtho fo, ac mi ddaru addo newid ei login. Meddwl am ei insiwrin a'i bres o, wrth gwrs, oeddwn i. Felly dyna ddigon am yr hen feuden, ac ni soniaf am dani mwy.

Ar ol tê, gofynodd Dei i mi a oeddwn wedi blino, ynte faswn i yn leicio myn'd allan dipyn. 'Doedd hi ddim ond tua saith o'r gloch, ac wrth gwrs yr oedd yn dda gen' i fyn'd.

"I b'le leiciet ti fyn'd, Ned?" gofynai Dei.

"Wn i ddim yn wir," meddwn inau. "Ydi hi yn noson seiat heno, ne oes yma gyfarfod gweddi yn y dre' yma heno, neu bregeth?"

"'Roeddwn i yn meddwl," atebai Dei, "mai dwad yma i weld rhyfeddodau Llundan yr oeddet ti. Mi elli fyn'd i'r seiat yn y Nant, ac i'r cyfarfod gweddi hefyd, ac mae dwy bregeth yn yr wsnos yn llawn ddigon buaswn yn meddwl, pe tae rhywun yn dal arnyn nhw. Faset ti ddim yn leicio myn'd cyn belled a'r House of Commons am dro; tydi o ddim yn rhyw bell iawn? Mi awn yno ar yr afon."

"All right," meddwn ina, ac allan a ni. Aethom heibio Capel Spurgeon ac at Bont Llundan, er mwyn cael gwel'd tipyn, ac ar ol croesi y bont (dylaswn ddyweyd mai yr ochor arall i'r afon mai. Dei yn byw)