Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/178

Gwirwyd y dudalen hon

dyma ni yn cael stemar, a brensiach mawr fel 'roedd hi yn myn'd. Tydi stemar bach Sir Fon yn ddim wrthi am fyn'd.

Oddiar fwrdd y stemar ar Afon Llundan yr oedd Dei wrthi a'i holl egni yn dangos i mi y pethau mwyaf dyddorol.

Dacw hen Eglwys St. Paul fan acw. Dacw Somerset House, lle mae nhw yn gwerthu stamps. Wyddost ti beth ydi hwn acw? Dyna nodwydd Cleopatra."

"Beth ydi hwnw, dwad?" meddwn ina.

"O," atebai yntau, "enw hen frenhines yr Aipht ydi Cleopatra, a dacw ei nodwydd hi."

Cyn iddo gael gorphen deud, meddwn ina, "Yma ti, Dei. Gâd i ni ddallt ein gilydd, rwan, cyn myn'd ddim pellach. Os wyt ti am neyd ffwl ohonof ar ol i mi ddwad i edrych am danat, mi âf adra y cynta peth bora 'fory."

Wel, mi sponiodd Dei am y Nodwydd i mi, mai cofgolofn oedd; ac yr oedd pobpeth yn reit mewn mynud.

"Weli di y clochdy uchel acw, Ned, a gwyneb cloc mawr arno fo? Dacw y Parlament. Fan acw mae yr House of Lords a'r House of Commons."

"Diar mi, Dei, wyt ti ddim yn deyd mai fan acw y bydd Bryn Roberts, y'n membar ni, a Lloyd George, a Tom Ellis, a Mr. Gladstone, a'r membars i gyd yn cyfarfod?"

"Ie siwr, Ned," meddai Dei, "ac mi fyddwn ninau yno mewn pum' mynud."

Ac yn wir i chwi, felly y bu. Aethom i fyny rhyw steps, a dyna ni yn nghwrt yr House. Aethom i mewn trwy ddrws mawr, ac i fewn i rŵm fawr, lle yr oedd dwsine o bobl yn cerdded yn ol a blaen; ac i fyny rhyw steps wed'yn, lle yr oedd twr o bobl yn sefyll, a thri neu bedwar o blismyn y sefyll wrth rhyw ddrws gwydyr.

"Weli di drwy y drws yna, Ned?" gofynai Dei. "Dyna y Lobi. Fan yna y bydd y membars yn hel