Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/18

Gwirwyd y dudalen hon

Charter i lawr ar un o draethellau Môn. Diwrnod dychrynllyd ydoedd hwn i fachgen gychwyn ar daith o chwe' milldir ar hugain ar ben y goach fawr. Yr oeddwn yn cychwyn hefyd o gynhesrwydd y Diwygiad Mawr oedd wedi dyfod fel ton dros ardaloedd Cymru. Teimlwn yn ddigalon ar y daith. Nid ydwyf fardd, ac ni fuom erioed, neu buasai genyf destyn ardderchog pan oeddwn yn teithio trwy Ddyffryn prydferth Llangollen y diwrnod mawr hwnw. Yr oedd y gwlaw yn disgyn yn un cenllif, a'r rhuthr-wynt yn ysgytian yr hen goed ar ochr y ffordd fel yr oedd cawodydd o ddail Hydref yn disgyn ar benau y teithwyr. Ond ni theimlwn yr ystorom; oddi fewn, ac nid oddi faes, yr oedd y storm fwyaf gyda mi. Fe faddeua y darllenydd i mi am roddi y penill cyntaf a gyfansoddais erioed, a hwnw wedi ei nyddu ar ben y goach fawr y diwrnod bythgofiadwy hwnw:—

"Cyn i mi lanchio'm llestr
I ddyfnder môr y byd ,
Lle mae peryglon filoedd ,
A chroesau'n d'od o hyd ;
Da i mi fyddai cofio,
Mai'm tad sydd wrth y llyw —
Ffe yn ngwyneb ' stormydd
A all fy nghadw'n fyw ."

Rhaid i mi beidio ymdroi neu buaswn yn dweyd tipyn o hanes y tair blynedd dedwydd a dreuliais yn Nghaerlleon. Cefais un o'r meistradoedd goreu a charedicaf a gafodd bachgen erioed, sef y diweddar Mr. William Evans, Dilledydd, mab yn nghyfraith Gwilym Hiraethog, a llawer tro y cefais yr anrhydedd o gyd-eistedd wrth yr un bwrdd a'r bardd anfarwol. Hefyd, delai y ffraeth Huw Puw Mostyn i dy fy meistr, a hefyd "Y Gohebydd."

MANCEINION.

Yn y flwyddyn 1863 symudais fy mhabell i'r ddinas enwog hon, a buom yn dal cysylltiad â hi am dros ddwy flynedd ar hugain, yn ystod pa amser y daethum