Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/180

Gwirwyd y dudalen hon

yn ddeyd, ac yr oedd yn rhwyr gen i fyn'd allan ar ol bod yno haner awr. Anfonasom air at Mr. Bryn Roberts, ac mewn mynud dyma fo allan, ac aeth a ni i gael cwpaned o goffi. Yr oedd o yn glên dros ben wrtho ni. Dyn iawn ydi o,—dyn âg asgwrn cefn ganddo. Os daw o i dreio yn y lecsiwn nesa, myn einioes Pharo, mae o yn siwr o fy vote i.

Buom hefyd yn ysgwyd llaw efo Mri. Lloyd George, Thomas Lewis, Herbert Roberts, a Herbert Lewis. Chawsom ni ond prin weled Tom Ellis, yr oedd rhyw ymraniad pwysig i gymeryd lle, ac yr oedd o wrthi fel pe dase fo yn lladd nadroedd. Ar ol i ni wybod mai wrthi yn chwipio yr oedd o, yr oeddwn yn disgwyl gweled globen o chwip fawr yn ei law o fel bydd gan wagonars ei dad o yn Nghynlas. Ond oedd geno fo ddim ond rhyw bapyr glâs mawr yn un llaw, a pensil led yn y llall. Toc dyna y gloch yn canu, a dyma Mr. Bryn Roberts yn dyweyd, "Dyna'r Division Bell rhaid i mi fyn'd, nos da Mr. Foulkes."

Gwelsom lawer o betha ar y ffordd i'r login, ac yr oedd yn rhwyr glâs gen i fyn'd i'r gwely. Yr oedd eisio codi cyn codi cwn Caer y bore dranoeth i fyn'd i wel'd priodas y Diwc o Iorc.

Yr oedd Dei a fina allan cyn pump o'r gloch y bore, ac wedi myn'd a brechdan a wye wedi eu berwi yn galed gyda ni. Yr oedd pob man yn fyw er mor fore ydoedd, ac yr oeddym bron a methu myn'd yn ein blaenau gan y crowd. Buom yn sefyll am oriau lawer, bron rhostio yn yr haul, a bron marw gan syched. Ond o'r diwedd Wele y bu gwaedd—mae y priodfab yn dyfod." Ac yn y fan dacw gerbyd ardderchog yn y golwg.

"P run ydi o, p'run ydi o?" gwaeddai pawb. Ond mi welais i rywun oeddwn yn adnabod yn y cerbyd, a dyna fi yn gwaeddi nerth fy mhen, "Drycha, 'drycha, Dei! dacw Mr. M—— o Gaernarfon ne dai byth o'r fan yma."

Taw, yr hurtun," meddai Dei; "ond y Prins o