Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/181

Gwirwyd y dudalen hon

Wales ydi hwna, tad y Diwc o Iorc, sydd yn eistedd wrth ei ochor. Ond wst i be, mae o'n debyg hefyd, erbyn i ti sôn."

Toc, daeth yr hen chwaer, y Frenhines, heb ddim gwên ar ei gwyneb. Mae nhw'n deyd na fydd hi byth yn chwerthin ar ol colli ei gŵr, ac y mae dros ddeng mlynedd ar hugain er hyny. Poor thing, y mae hi'n siampl i lawer gwraig weddw adwaen i. Mae llawer un ohonyn nhw yn barod i ŵr cyn fod gwelltyn wedi tyfu ar fedd ei gwr cynta. Ond bydd Sara acw yn deyd, yn enwedig pan y bydd wedi cael rhywbeth newydd gen i, na phriodith hi byth os mai fi aiff gynta. Wel, wel—just i mi ddeyd, mi gawn wel'd.

Toc, dyma waedd arall—"Wele mae y briodasferch yn dyfod," a dyma bawb yn sgrythu eu llygaid i gael gwel'd y Princess May. Wel, mae hi yn beth fach a golwg reit ffeind arni hi. Ond er mor grand oedd hi, dydi hi ddim haner can glysed ag oedd Sara acw pan briodais i hi. Ond "gwyn y gwel pob bran ei chyw," yn tê?

Wel, 'doeddwn i a Dei ddim am aros i sefyll yn y crowd i aros iddyn nhw dd'od allan. 'Doedd dim peryg y caem ni y fraint o ysgwyd llaw â nhw, a 'does gen i ddim ond deyd lwc dda i'r pâr ifanc. Yn ystod yr wythnos y bu'm i yn Llundan, aeth Dei a fi i lawer iawn o lefydd rhyfedd iawn, ond rhaid i mi beidio manylu.

Un o'r llefydd mwya dyddorol y bu'm ynddo oedd Westminster Abbey, hen eglwys fynachaidd. Dyma lle y mae rhai o hen frenhinoedd Lloegr wedi eu claddu, a llawer o enwogion ein gwlad, ac yn enwedig ein prif feirdd, ac yr ola aeth yno oedd y bardd Tennyson. Yr oeddwn i yn meddwl wrth edrych ar eu bedda nhw, fod yn biti na fase gan y Cymry Gladdfa Genedlaethol—yn rhyw le canol—yn lle fod cyrph ein seintiau wedi eu gwasgaru ar hyd a lled y wlad. Dyma John Jones, Talysarn, yn gorwedd yn Llanllyfni, a Dafydd ei frawd yn Nghaernarfon; dyma Henry Rees yn