Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/186

Gwirwyd y dudalen hon

ydwyf fi yn gofio yn Ngoleg Michael Jones oedd y Parch. D. M. Jenkins, yn awr o Lerpwl; y Parch. Lloyd Jones, yr hwn a aeth i'r Wladfa Gymreig; Rhys Gwesyn Jones, a'r Proffeswr Dewi Môn. Hen foneddwr noble oedd Michael Jones, golwg braidd yn ffyrnig arno i estron, ond calon gynes dirion yn curo yn ei fynwes. Yn Llanuwchllyn y trigai, lle y triniai dyddyn o dan y Barwnig o Wynstay. Waeth heb nag agor hen friwiau, neu buasai yn hawdd i mi ysgrifenu am ddigwyddiadau a gymerasant le gyda golwg ar y tyddyn hwnw yn amser etholiadau ffyrnig sir Feirionydd. Gŵr talgryf, corphorol, oedd Mr. Jones. Delai i'r Bala bob dydd ar gefn ei ferlen. Disgynai wrth y tyrpec oedd y pen uwchaf i'r dref, neu pan ddeuai dros Bont-mwnwgl-y-llyn-disgynai cyn dyfod i'r dref, ac arweiniai ei farch i'r ystabl oedd yn ymyl y Coleg. Arhosai yn y dref ambell noson, ac yn y Bala y bu farw, ac fel y dywedais mewn man arall yn fy Adgofion, cafodd un o'r claddedigaethau mwyaf a pharchusaf a welwyd erioed yn nhref y Bala. Y mae yn ddiameu fod Coleg Annibynol y Bala yn amser Michael Jones y Cyntaf, ac hefyd o dan lywyddiaeth ei fab, y Prifathraw M. D. Jones, wedi gwneyd ei ôl ar enwad barchus yr Annibynwyr yn Nghymru.