Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/187

Gwirwyd y dudalen hon

MICHAEL JONES YR AIL.

YR ydwyf yn sicr na ddigia fy hen gyfaill parchus, y Parch. M. D. Jones, M.A., cyn-Brifathraw Coleg Annibynol y Bala, am i mi adrodd y stori fach a ganlyn a glywais y dydd o'r blaen gan hen gyfaill a fu yn cyd-chwareu â mi ugeiniau o weithiau ar lan Llyn Tegid, ac yn cyd-bysgota "dyrogiaid " ger y fan lle y cychwyn y Ddyfrdwy ar ei thaith tua'r môr:—"Yr oeddwn yn un o blant ysgol yr Hybarch Fichael Jones, pan y byddai yn cadw ysgol i'r plant, a Choleg i'r pregethwyr yn yr un adeilad. Cymerai yr hen ŵr ei brydau bwyd yn ei study uwchben ystafell y plant. Ryw dro yr oedd yr hen athraw wedi myn'd oddicartref, a chan fod ei fab yn digwydd bod gartref ar y pryd, cymerodd ofal o'r ysgol am y tro. Am ryw drosedd nad ydwyf yn cofio beth, bu raid i dri ohonom aros ar ol i ddysgu rhyw wers fel cosp am ein trosedd. Eisteddai mab ein hathraw ar ei gadair i ddarllen y Times, eisteddem ninau i wneyd ein penyd. Toc aeth 'ceidwad y carchar' i fyny i'r study i gael ei giniaw, ac ar yr egwyddor

"When the cat is away
The mice will play,"

dechreuasom ninau droi tops oedd yr hen John Morris y Saer wedi ei wneyd i ni. Clywodd y gŵr oedd yn y study y twrw a daeth i ben y grisiau a chloben o dorth fawr o dan ei fraich, a chyllell yn y llaw arall. Trwy ryw anffawd slipiodd y dorth o'i afael, a rowliodd i lawr y grisiau, cododd un ohonom hi ac aethpwyd a hi i fyny i'w pherchenog, yr hwn oedd yn sefyll ar y grisyn uwchaf yn chwerthin nes oedd o yn siglo. Gwell i chwi fyn'd adre' 'nawr blant ne bydd eich ciniaw wedi oeri.' Trwy anffawd y dorth maddeuwyd ein pechodau. Y mae y Prifathraw M. D. Jones, wedi anghofio