Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/189

Gwirwyd y dudalen hon

IOAN PEDR.

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
John Peter (Ioan Pedr)
ar Wicipedia

NIS gallwn yn hawdd ddirwyn fy Adgofion i ben heb sôn tipyn am y gwr hoff hwn, "Ioan yr Athraw a'r Dysgybl anwyl." Ie, un anwyl oedd yr "Ioan" hwn fel yr oedd yr "Ioan" a garai yr Iesu mor fawr, yn un anwyl. Cof genyf pan oeddwn yn fachgen bychan iawn weled Ioan Pedr yn dyfod adref oddiwth ei waith yn rhai o'r melinau, oblegid seiri melinau oedd ei dad ag yntau. Deuai gan ymgomio yn siriol gyda'i dad, a chyda gair caredig a nod i hwn a'r llall a gyfarfyddai ar y ffordd. John fyddai yn cario y fasged arfau bob amser, a'i dad a gariai y piser bychan fyddid yn myn'd a llaeth neu de at giniaw. Gweithiai yn ddygn bob dydd am ei fara beunyddiol, a phan ddeuai adref, ei lyfrau fyddent y prif atyniad. Ei hoff astudiaeth fyddai ieithoedd a hynafiaethau, ac y mae ei enw yn gof-golofn yn mhlith enwogion Cymru beth all Cymro ieuanc wneyd trwy ddyfalbarhad. Bu Ioan yn gohebu â phrif Gymreigwyr y byd, ac y mae rhai o'r llythyrau a dderbyniodd ar gael hyd y dydd heddyw. Byddai gan Ioan Pedr air caredig i'w ddyweyd bob amser wrthym ni y plant, ac yr oedd yn hoffddyn gan bawb ohonom. Edrychem arno fel rhyw oracle yn y byd llenyddol, ac efe bob amser a'n rhoddai ar y ffordd sut i gadw Cyfarfodydd Llenyddol. Yn fuan ar ol marwolaeth yr Hybarch Michael Jones, cynygiwyd gwobrwyon mewn cyfarfod llenyddol a gynhelid yn hen gapel yr Annibynwyr. Y testynau oeddynt, "Cof-Draethawd i'r Parch. Michael Jones," a thraethawd a'r " Oliver Cromwell." Gyrodd awdwr yr ysgrif hon ddau draethawd i'r gystadleuaeth, a rhoddodd fel ffugenwau "Plato" a Virgil." Yr oeddwn wedi dewis yr enwau clasurol gan feddwl y buasai hyny yn pwyso gryn dipyn gyda'r beirniad, Ioan Pedr, ac yn hyn yr oeddwn yn lled agos i fy lle, oblegid fe "bwysodd" cynyrch fy ysgrifell i