Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/190

Gwirwyd y dudalen hon

waelod rhestr yr ymgeiswyr. Gwnaeth Ioan gryn sport o'r awdwr oedd wedi benthyca enwau yr athronwyr Rhufeinig. Ond yr oedd y bachgen uchelgeisiol i'w esgusodi, oblegid yr oedd yn troi bob dydd yn mhlith myfyrwyr y colegau, a byddai enwau doethion Rhufain a Groeg fel enwau teuluaidd. Cafodd gwers y beirniad wrth draddodi y feirniadaeth effaith ddyladwy arnaf byth.

Yr oedd gan blant y Bala hefyd gyfarfod llenyddol, for beginners, mewn ystafell fechan o dan goleg y Methodistiaid. Nid oeddynt yn ddigon o lenorion i fyned i'r Gymdeithas Lenyddol fawr, a gynhelid yn yr oruwchystafell, am yr hon y buom yn sôn mewn ysgrif flaenorol (gwel tudalen 83). Ar ddiwedd y tymor, cynhelid cyfarfod cyhoeddus gan y llenorion ieuainc, a chynorthwyid ni gan y greater lights oedd yn cartrefu uwch ein penau. Cof genyf am un cyfarfod neillduol iawn, yr oedd y lesser lights yn myn'd i "chwareu cadeirio bach," ac aethom dros ben y Doctor Roger Hughes, y pryd hyny yn fachgen deuddeg oed, i ddyfod i'n llywyddu, a Dr. Charles Edwards, yntau tua'r un oedran, i ddyfod yn gyd-feirniad â Ioan Pedr, i feirniadu y prif draethawd. Yr oedd yr ymgeisydd llwyddianus i gael ei gadeirio. Dyma i chwi, bwyllgor Eisteddfod Llandudno, dyma i chwi precedent, o'r sort oreu, i'ch cyfiawnhau am dynu yn eich penau lid pleidwyr y mesurau caethion, a hawl yr awdl yn unig i'r gadair. Prif destyn y cyfarfod oedd traethawd, "Rhyfeddodau Duw yn y Greadigaeth." Y wobr oedd dau swllt ac ysnoden werdd ofydd, heb "gadair na choron." Ar ol i un o'r arweinyddion ofyn dair gwaith, yn ol braint a defawd, "A oes heddwch?" ac i'r "dorf" ateb, "Heddwch!" daeth Ioan Pedr yn mlaen i ddarllen y feirniadaeth, a dyfarnodd y wobr i un a alwai ei hunan yn "Llai na'r Lleiaf." Dyma waedd drachefn, "A oes heddwch?" a'r "beirdd a'r llenorion ieuainc" a waeddasant gyda chrochlef, Heddwch!" galwyd ar y buddugwr i amlygu ei hunan, a gwnawd hyny gan Ellis Roberts, yn awr.