Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/191

Gwirwyd y dudalen hon

Registrar Roberts, Llanfyllin. Arweiniwyd ef i'r gadair gan "ddau brif fardd," nid Hwfa Môn na Gwalchmai, ond dau o feirdd yr oruwch-ystafell. Daliwyd cledd yr hen Dwalad y Sargent, gyda pha un yr oedd wedi lladd tua chant o Ffrancod yn Waterloo, uwch ei ben, ac yn well na'r cwbl, cyflwynwyd iddo y wobr o ddau swllt, sef pedair ceiniog ar hugain, ceiniogau mawr Sior y Trydydd, oeddynt, wedi eu cymeryd wrth y drws am ddyfodiad mewn i'r "Eisteddfod." Cyn diwedd rhoddodd Ceidwad y Corn Gwlad dair bloedd ar y corn tin oedd wedi ei brynu am chwe' cheiniog gan haid o shipsiwns oeddynt yn pabellu o dan y Bryn Hynod. Ie, pedair ceiniog ar hugain oedd y wobr yn "Eisteddfod fawr" plant bach y Bala,—dylasai fod yn six and eight pence, legal fee twrne, yn yr hon broffes y darfu i'n cyfaill y Registrar wedi hyn enwogi ei hunan. Nid oes arnaf ofn iddo ddyfod a libel arnaf, oblegid iddo ef yr ydwyf yn ddyledus am adgoffa i mi am yr Eisteddfod fythgofiadwy hon. Byddai Ioan Pedr wrth ei fodd yn helpu plant y Bala yn ei difyrion diniwed.

EI ORDEINIAD.

Rhyw dro ar ol marwolaeth yr Hybarch Michael Jones, dewiswyd Ioan Pedr i fugeilio eglwys Annibynol y Bala, a chymerodd yr ordeiniad le yn yr hen gapel Sentars, neu fel ei gelwid y dyddiau hyny, "y capel newydd," am nad oedd mor oedranus a chapel Mr. Charles. Nid oeddym ni blant y Bala erioed wedi cael y fraint o wel'd ordeiniad, yr oedd rheolau yr Hen Gorph mor geidwadol yn hyn o beth. Ni oddefid i neb o dan rhyw oedran penodol fyn'd yn nes i'r sêt fawr ar adeg ordeinio na'r cyntedd nesaf allan, ac ni oddefid i ferch o unrhyw oedran halogi" llawr cysegredig y capel ar yr amgylchiad o ordeinio. Mae'r darllenydd yn cofio yr hanes yn dda fel y rhwystrodd rhyw hen Gristion cul a rhagfarnllyd y diweddar Dr. John Hughes a'i gyfaill, oeddynt wedi cerdded yr holl ffordd o Lanerchymedd, i fyn'd i gapel y Tabernacl, Bangor, i