Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/192

Gwirwyd y dudalen hon

weled ordeinio. Yr oedd cyfundeb yr Annibynwyr yn llawer mwy rhyddfrydig eu barn y dyddiau hyny, ac y mae yr Hen Gorph erbyn hyn-wedi dyfod i edrych ar y peth yr un fath. Wel, o dan yr amgylchiadau, yr oedd plant y Bala yn dyheu am fyn'd i gael gweled eu cyfaill Ioan Pedr yn myned o dan y "corn olew." Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan y Parch. D. Roberts, Caernarfon, yn awr Dr. Roberts (Dewi Ogwen), Gwrecsam. Nid ydwyf yn cofio y gŵr da arall, bron y meddyliwyf mai Ap Vychan, ond nis gallaf fod yn sicr. Un peth mwyaf neillduol ydwyf yn ei gofio yn y seremoni ydyw Dewi Ogwen yn gofyn y cwestiwn hwn i'r pregethwr ieuanc, "A ydych chwi yn credu eich bod wedi eich haileni?" Atebai John Peters mewn llais clir, penderfynol, "Ydwyf, yr ydwyf yn credu fy mod yn gadwedig." Edrychodd plant y Methodus ar ei gilydd yn sobr, nid oeddynt hwy erioed wedi clywed y fath athrawiaeth. Yr oedd pob un ohonom ni wedi cael ein dysgu mai ni oedd "y pechadur pena," ac nid oedd yn bosibl i ni wybod pa bryd y ca'em ein haileni. Ond daeth dyddiau bendigedig y diwygiad mawr cyn hir, pan y pregethodd y Dr. Lewis Edwards, y bregeth fythgofiadwy "Y Diwrnod Mawr." Cymerodd ei destyn yn Josuah, "O haul sefyll yn Gibeon, a thithau leuad yn nyffryn Ajalon." Dysgwyd ni fod "diwrnod mawr yn hanes pob pechadur edifeiriol, ac y gallai wybod y dydd y symudwyd y gollfarn oddiarno. Yr oedd yn dda genym ni blant y Bala erbyn hyn ddeall nad oedd ein hoff gyfaill Ioan Pedr ddim wedi cyfeiliorni. Bu Ioan Pedr yn weinidog ar eglwys Annibynol y Bala am rai blynyddoedd, hyd oni aeth yn Broffeswr i'r Coleg, ac yna fe'i dilynwyd gan y cadeirfardd Ap Fychan.

SIMON JONES.

Yr ydwyf yn cofio tri o flaenoriaid capel Ioan Pedr yn dda, sef yr areithiwr dihafal Simon Jones, y blaenor distaw a'r Israeliad yn wir, Moses Roberts, a Tomos