Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/193

Gwirwyd y dudalen hon

Cadwaladr, yr hen Gristion ffraeth, am yr hwn y bydd genyf gryn dipyn i ddyweyd cyn diwedd y benod hon.

Mae llawer wedi cael ei ddyweyd a'i ysgrifenu am "Simon Jones." Bu yn destyn darlith gan Plenydd, ac ysgrifenwyd yn ddoniol am dano i Cymru gan Llew Tegid, Ysgol y Garth, Bangor; ond nid ydwyf yn cofio i mi weled yr hyn a ganlyn mewn unrhyw gyhoeddiad o gwbl. Gŵyr pawb sydd yn gwybod rhywbeth am dano ei fod yn ddirwestwr o'r groth i'w fedd, a phe dai angen am Gyfarfod Dirwestol yn y Drydedd Nef byddai Simon" yn ddigon parod i areithio ar y pwnc.

Yr oedd boneddwr yn y Bala, tua'r adeg yr ydwyf yn sôn am dano, fyddai dipyn yn gaethwas i'r ddiod feddwol. Deuai yr awydd arno am y ddiod ar adegau, pryd y byddai yn hollol yn ei gafael am ysbaid o amser, ac yna ca'i lonydd am gryn amser. Yr oedd yn ddyn talgryf, hardd, ac yn un o'r dynion mwyaf talentog yn nhref y Bala. Gwnai ei oreu i ymladd a'i elyn, ac y mae yn sicr pe buasai ei gyfoedion wedi ei helpu yn lle ei demtio y buasai yn un o brif addurniadau cymdeithas. Ond er cywilydd iddynt, ei hudo a wnai y rhai a alwai efe yn gyfeillion mynwesol. Yr oedd yn fwy hoff o'r gyfeddach nag oedd o'r ddiod feddwol. Deallodd "Simon" hyn, ac aeth ato rhyw ddiwrnod, a dywedodd,- "Yna chwi, Mr.-- os eisieu cael cwmni eich cyfeillion sydd arnoch, p'am na yfwch chwi ddwfr glân?" Atebai yntau nad oedd ganddo ddigon o wyneb i fyn'd i dafarn a gofyn am ddwfr. "Dowch efo fi, ynte," meddai "Simon," ac felly fu. Aeth y ddau gyda'u gilydd fraich yn mraich i'r dafarn. Pan aeth aeth yr areithiwr dirwest mawr i ystafell y llymeitian, ni fu y fath syndod yn mhlith y llymeitwyr. Buasai yn dda ganddynt pe medrent am y tro ddiflanu fel y Tylwyth Teg. Eisteddodd "Simon" a'i gyfaill i lawr yn eu canol, canwyd y gloch, a daeth y forwyn yno, a phan welodd hi pwy oedd wedi ei galw, edrychodd yn ddychrynedig. "Mary, tyr'd a dau lasiad o gwrw Adda yma yn y fynud." "Dear me, Simon Jones, be