Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/194

Gwirwyd y dudalen hon

ydi hwnw dudwch? Chlywes i 'rioed sôn am dano fo. Mi af i ofyn i meistres. Felly fu, a daeth yn ol yn ebrwydd, gan ddyweyd fod ei meistres yn dyweyd nad oedd hi ddim yn gwerthu dwfr. Edrychodd "Simon" ar y forwyn, fel yr edrychodd Shiencyn Penhydd ar y tafarnwr, a dywedodd,—"Dos ti i nol dau lasied o ddw'r y fynud yma, a dyma ti bres am dano fo," gan daflu grôt o bres ar y bwrdd. Cafwyd "cwrw Adda," ac yfwyd y ddiod flasus gydag awch, a galwyd am lasied bob un wed'yn. Edrychai edmygwyr Syr John Heidden yn syn ar "Simon" a'i gyfaill, a chawsant gryn hwyl yn gwrandaw ar ystori oedd gan yr hen ddirwestwr i'w dyddori. Ysgydwodd "Simon law gyda phob un o'r cwmni wrth ymadael, ac wrth un ohonynt dywedodd,—"John bach, yfa di ddigon o gwrw Adda' yn lle cwrw Llangollen, mi wnawn i ddyn ohonat ti." Fe ddywedir fod y gair bychan yna wedi effeithio gymaint ar y bachgen, na phrofodd ef byth ddiferyn o'r ddiod feddwol wedi hyny. Cafodd yr amgylchiad yma effaith ddaionus ar y boneddwr y buom yn sôn am dano, a bu yn ddirwestwr selog am amser maith. Gwnaeth "Simon" lawer o blaid dirwest mewn gwahanol ffyrdd, ac yr oedd ganddo bob amser air ffraeth yn barod i'w roddi i fewn yn mhlaid ei hoff bwnc. Dyna un o flaenoriaid eglwys Ioan Pedr.

TOMOS CADWALADR.

Dyma eto hen giaractor rhyfedd oedd yn addurno sêt fawr capel Ioan Pedr. Brodor ydoedd Tomos Cadwalad, fel y gelwid ef, o Cynllwyd, Llanuwchllyn. Clywais ef yn dyweyd rhyw dro ei fod yn cofio myn'd i hen Eglwys Llanuwchllyn un boreu Sabboth pan yn blentyn, ar gefn ei dad. Ar ol i'r gwasanaeth fyn'd drosodd, ymgasglodd y gynulleidfa at eu gilydd yn y fynwent i chwareu eu mabol gampau, megis ymaflyd codwm, neidio am y pellaf, a chwareu pêl ar wal yr eglwys. Eisteddai y person ar un o'r cerig beddau i fwynhau y chwaraeon ac i gadw cofnod o'r campau,