Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/195

Gwirwyd y dudalen hon

ac enwau y buddugwyr. Pan yn ieuanc yr oedd Tomos yn un o'r rhai mwyaf direidus. Gadawodd ei gartref yn lled ieuanc, ac aeth i wasanaethu i Goed y Foel Isaf. Nid oedd Tomos yn credu mewn Tylwyth Têg nac ysbrydion, ac yr oedd hyn yn gryn fantais iddo, oblegid yr oedd yn hoff iawn o fyn'd allan yn y nos i boachio, a llawer ysgyfarnog, gwningen, a pheasant oddiar 'stâd y Rhiwlas a syrthiodd i ran y bachgen direidus o Goed y Foel. Rhyw ddiwrnod yr oedd wrthi yn ddygn yn tori gwair ar ben y dâs yn y gadles. Cododd ei ben am fynud, a gwelai ysgyfarnog braf yn llygad-rythu arno. Yr oedd ysgyfarnogod Mr. Price o'r Rhiwlas y dyddiau hyny mor ddof a chathod. Wel, yr oedd gwel'd y pry' hir-glustiog yn ormod i Tomos, slipiodd i lawr ochr y dâs wair, ac aeth i'r armoury, sef llofft y 'stabl, lle yr oedd ganddo glamp o wn careg fflint. Aeth a'r gwn i ben y dâs, ac yr oedd yr ysgyfarnog wrth y clawdd yn pori yn dawel, ond ni phorodd, ac ni chnodd ei chil byth mwyach. Mewn llai o amser nag a gymerodd i mi ysgrifenu y frawddeg uchod yr oedd y drancedig yn gorwedd yn dawel wrth ochr chwaer neu gyfnither iddi yn llofft y gwair. Aeth Tomos yn ol i ben y dâs, ac nid cynt ag y cyrhaeddodd yno nag y clywai sŵn traed march, a phwy oedd ond yr "Hen Breis," y pryd hyny yn Mr. Price ieuanc, oblegid tua'r un flwyddyn y ganwyd Thomas Cadwaladr yn Nghwm Ffynnon, Cynllwyd ag y ganwyd aer y Rhiwlas, yr hwn a adwaenem ni blant y Bala fel yr "Hen Breis.' Ar gefn ei geffyl gwyn yr oedd y boneddwr. Safodd ar gyfer y gadles, a gwaeddai:—

Domos, clywsoch chi sŵn gwn, 'rwan jest?" Do, syr," meddai Tomos. . 191 "Cwelsoch chi dyn daru gollwng ergyd, Domos?"

"Naddo, syr," ebai'r llanc, "fu neb yn y gadles yma er's oriau ond fi, syr.".

"Cawn i gafel yno fo, mi baswn yn cyru fo i jail Dolgelle at once."

"Basech yn gwneyd tro call iawn efo fo, syr," ebai'r