Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/196

Gwirwyd y dudalen hon

poacher, "y cena drwg, bwy bynag oedd o, yn lladd y pethe bach diniwed."

"Ydech chi bachgen da iawn, Domos, bachgen gonest, call; os bydd arnoch chi eisia lle Clame nesa, dowch chi ata i i'r Rhiwlas. Bore da, Domos."

"Bore da i chithe, syr; os clywaf i pwy saethodd y sgwarnog, neu beth bynag oedd y pry', mi ddo i atoch chi i ddeyd, syr."

Ond ar ol i Tomos gael gwraig daeth cyfnewidiad mawr drosto, oblegid fe ddenodd ei wraig ef i'r capel, ac yn fuan iawn daeth yn ddefnyddiol iawn yn yr eglwys, ac mewn amser yn flaenor gweithgar. Dewisodd fel ei alwedigaeth waith bwtsiar, a chadwai ystondin yn mhrif heol y Bala, o flaen ty Mr. David Evans, lle yn awr y saif y North & South Wales Bank.

YN NHIR "NOD."

Yr oedd ty Tomos Cadwalad, fel y galwem ni y plant ef, ar gyfer hen gapel yr Annibynwyr, a byddai yn gyson ac mewn pryd yn y moddion. Efe a arferai gyhoeddi y gwasanaeth.

Byddai oedfa ar brydnawn Sabboth ambell dro yn y Capel Sentars, a phan fyddai yn fwll yn yr haf cysgai Tomos Cadwalad yn drwm yn y sêt fawr o dan y pwlpud. Rhyw dro digwyddodd y Parch. Mawddwy Jones fod yn pregethu. Yr oedd yn brydnawn trymaidd, a buan yr aeth yr hen flaenor i dir "Nod." Cafodd y pregethwr gryn hwyl, ond swiai ei lais yr hen Domos i gysgu yn drymach, fel y gwna llais y fam i'r plentyn gysgu yn y cryd. Toc dyma rai o'r hen bobl yn dechreu porthi, ac yn gwaeddi " Ie, ie," " diolch byth," "Amen, Amen." Yr oedd un hen frawd yn mhen draw'r capel eisieu i'w "Amen " yntau gael ei chlywed, a dyma fo yn rho'i rhyw "Amen" ddychrynllyd, na chlywyd y fath "Amen" erioed. Ie, Amen i'w chofio oedd hono, oblegid fe ddeffrodd Tomos Cadwalad o'i gwsg melus. Yr oedd yr Amen fawr hono wedi tynu y gwynt o hwyliau y pregethwr am rhyw fynud, a phan ddadebrodd