Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/198

Gwirwyd y dudalen hon

Tomos adref o Benisa'rllan, Llanfor, lle yr oedd wedi bod yn prynu defaid, a phan yn myn'd i fewn i'r ty gwelai dipyn o fŵg glâs yn esgyn i fyny o'r simddeu haiarn oedd yn mur y capel. Ond ni wyddai yr helynt yr oedd "Evan Pobpeth ynddo i gael gan y stove i "dynu" er trio "pobpeth," darfu i'r cwbl end in smoke, ac erbyn amser dechreu y seiat yr oedd y capel mor oer, os nad yn oerach nag y bu erioed. Aeth Tomos Cadwalad i'r capel yn ol ei arfer bum' mynud cyn amser dechreu. Aeth heibio i'r stove heb edrych arni, gan feddwl, wrth gwrs, fod ei llon'd o dân. Eisteddodd i lawr yn y sêt fawr a golwg pruddglwyfus arno, heb ddisgwyl na gofyn am fendith o gwbl y noson hon. Dechreuwyd y seiat gan un o'r myfyrwyr. Holwyd y plant gan Moses Roberts, a dywedodd Simon Jones rhyw air wrthynt. Gofynodd Ioan Pedr i Tomos Cadwalad oedd ganddo ef air i'w ddyweyd, "nac oes, John bach, ddim byd heno," meddai'r hen bererin yn ddigalon. Aed yn mlaen yn y dull arferol gyda'r ymddiddan. Toc gwelid Tomos Cadwalad yn datod botymau ei gôt fawr, ac wedi hyny yn tynu ei gadach poced coch allan, ac yn sychu ymaith y "chwys dychmygol." Pan yr oedd un hen wreigan yn dyweyd ei phrofiad gyda gryn dipyn o hwyl, dyma Tomos Cadwalad ar ei draed, a thynodd ei gôt fawr oddiam dano gan ddyweyd dros y capel, "'does dim posib byw mewn lle poeth fel hyn, mae hi fel pe da ni yn nhypobty John Roberts." Aeth gwên dros lawr y capel, ac aeth Ioan Pedr at yr hen frawd a dywedodd, Does dim tân yn y stove Tomos bach, mi fethodd Evan gael gan y stove i weithio." "Wel diolch i'r Nefoedd am hyny," ebai yr hen wr, a bu agos iddo waeddi Bendigedig" dros y capel.

RHODDI DEHEULAW CYMDEITHAS.

Pan y byddai pregeth ar brydnawn Sabboth yn y capel Sentars, elai Mr. Jones, yr Exiseman, yno, er mai gyda'r Methodistiaid yr arferai wrandaw. Eisteddai yr