Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/199

Gwirwyd y dudalen hon

hen foneddwr yn sêt Mrs. Evans, y Post Office, yn y sêt agosaf at y sêt fawr. Yr oedd yn drwm iawn ei glyw. Eisteddai Tomos Cadwalad yn y sêt fawr a'i gefn ar sêt Mrs. Evans. Rhyw brydnawn Sul, daeth Mr. Jones i'r capel a'i fraich dde mewn sling, yr oedd wedi anafu ei law. Rywbryd pan oedd y pregethwr ar ganol ei bregeth, ac yn dechreu ar y tipyn peth melus," chwedl yr hen bobl, yr oedd ar Mr. Jones eisieu tynu y faneg oedd am ei law chwith, ac i'r diben yma roddodd bwniad i Tomos Cadwalad. Trodd yntau at Mr. Jones, a safodd ar ei draed. Gwelodd fod llaw yr hen Exiseman yn estynedig ato, a meddyliodd ar unwaith mai eisieu iddo estyn "deheulaw cymdeithas" iddo oedd arno. Gafaelodd y blaenor yn dŷn yn llaw Mr. Jones, ac ysgydwodd hi yn galonog, gan ddyweyd yn lled uchel, "Mae'n dda iawn gen i eich gwel'd chwi yn troi atom ni, Mr. Jones, bach." Dyna i chwi dipyn o hanes am ddau o flaenoriaid perthynol i gapel yr addfwyn Ioan Pedr. Y mae y ddau flaenor a'r bugail mwyn erbyn heddyw wedi cyrhaedd y wlad ddedwydd hono y soniasant gymaint am dani pan yma ar y llawr, ac yr ymdrechasant ymdrech deg i'w chyrhaedd. "Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig."