Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/20

Gwirwyd y dudalen hon

y Cwnstabl Brett tra yn myn'd a charcharor Ffenaidd i Garchardy Belle Vue. Dygwyd y llofruddion i'r ddalfa, ac o flaen y Frawdlys. Buom yn gwrando ar yr hyawdl Ernest Jones yn dadleu drostynt, ond er cymaint ei hyawdledd collfarnwyd tri o'r llofruddion. Nid ydwyf mewn un modd yn ymffrostio yn y ffaith, ond gwelais y tri llofrudd yn cael eu hyrddio i'r byd arall oddiar y crogbren. Aethym i edrych ar yr olygfa ddychrynllyd fel gohebydd i un o newyddiaduron Caernarfon. Yr oedd yn olygfa nad anghofiaf byth. Y weithred oreu a wnaeth Llywodraeth Prydain erioed oedd gwneyd i ffwrdd â dienyddiadau cyhoeddus, a'r weithred nesaf ddylai fod diddymu y gosp o ddienyddio.

Yr oedd blwyddyn 1868 yn llawn berw yn Manceinion fel yn mhob man arall trwy'r deyrnas. Yr oedd yr etholfraint dair onglog wedi cael ei gwneyd yn gyfraith y tir, a dinas y Cotwm fel Lerpwl, Leeds, Birmingham, a rhai dinasoedd eraill, wedi cael tri aelod, ond nis gellid pleidleisio ond dros ddau, felly aeth Tori i fewn ar ben y rhestr y tro cyntaf er 1832. Taflwyd Ernest Jones allan, ac etholwyd Birley, Bazley, a Bright (the three B's, fel y gelwid hwy gan bobl y ddinas). Ond rhaid i mi adael Manceinion yn y fan hon, gan fod fy meistr, Mr. Robert Roberts (brawd i'r meddyg enwog Syr William Roberts), yr hwn a adwaenir yn awr wrth yr enw Robert Roberts, Ysw., U.H., Crug, ger Caernarfon, wedi cael allan rywfodd fy mod yn ddigon o ddyn neu "bechadur" i wneyd Trafeiliwr, a gyrodd fi i Ddeheudir Cymru.

DECHREU TEITHIO.

Teithiais drwy bron bob cwmwd yn Nghymru, 'O ben Caergybi i ben Caerdydd." Y dref gyntaf i mi weithio yn y Deheudir oedd Casnewydd. Cyrhaeddais yno yn hwyr rhyw noson. Y boreu dranoeth, pan yr oeddwn yn dechreu ar fy moreufwyd, daethpwyd a'r Western Mail ar y bwrdd; agorais ef, a'r peth cyntaf a