Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/201

Gwirwyd y dudalen hon

Yn y flwyddyn 1850, neu oddeutu hyny, aeth i Goleg Hyfforddiadol y Borough-road, Llundain, sefydliad o'r un natur ag ydyw Coleg Normalaidd Bangor, yr hwn sydd yn awr o dan ofal y Prif-athraw John Price, a'r Is-athraw John Thomas, B.A. Mewn rhai misoedd ar ol myn'd i'r brif-ddinas, cymerwyd Evan Peters yn glaf o'r cholera, yr hwn bla y flwyddyn hono a laddodd fwy o bobl yn Llundain nag a laddodd unrhyw bla er amser y pla du yn y flwyddyn 1665, yr hwn a ddilynwyd y flwyddyn ganlynol gan y tân mawr, yr hwn hefyd a laddodd ugeiniau o filoedd o'r dinaswyr.

DAN Y CHOLERA.

Un diwrnod daeth llythyr i fy nhad a marc post Llundain arno. Cymaint oedd y dychryn yn y wlad wrth glywed son am y geri marwol oedd yn difa cynifer o blant dynion yn y Brif-ddinas, fel yr oedd arnynt ofn cyffwrdd â hyd yn oed llythyr oddiyno. Agorodd fy nhad y llythyr gyda llaw grynedig, ac er ei fawr ofid gwelai fod ei hoff gâr a chyfaill, Evan Peters, yn gorwedd mewn Ysbyty yno o dan y cholera. Teimlodd y loes yn fawr. Gwelai mai ei ddyledswydd gyntaf oedd myn'd i dori y newydd trwm i Merddyn Mared, a dyna y swydd fwyaf anhawdd a syrthiodd i'w ran erioed.

Haws dychmygu na darlunio teimladau Sian Jones pan glywodd y newydd. Eisteddodd i lawr yn yr hen gadair yn yr hon yr oedd wedi eistedd ganoedd o weithiau i fagu Evan bach. Dyma holl deimladau calon dyner mam yn cael eu cynhyrfu i'r gwaelodion. "Ow, Ow," meddai, "Evan bach, fy machgen anwyl i, yn gorwedd o dan y pla marwol, yn nghanol estroniaid. 'Does yna yr un fam i afael yn dy law, ac i roddi tipyn o ddwr oer i wlychu dy wefusau sychion, ac i esmwythau dy glustog" (wyddai y fam drallodus ddim fod ei bachgen mewn dwylaw caredig yn un o brif Yspytai y Brifddinas). Wylai Sian Jones yn dorcalonus, a gadawyd