Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/202

Gwirwyd y dudalen hon

iddi. 'Does dim sydd mor iachusol i rywun mewn ing a thrallod, a chael wylo dagrau yn hidl. Os bydd arnat ti, ddarllenydd hynaws, eisieu wylo pan mewn ing, na fydded gywilydd genyt, oblegid oni wylodd yr Iesu o Nazareth uwchben bedd ei gyfaill Lazarus? Mae rhywbeth refreshing mewn cael colli dagrau pan fyddo y gostrel yn llawn. Wel, fe wylodd Sian Jones am fod Evan o dan y cholera. Safai Peter Jones a'm tad fel delwau. Ni wylodd Peter, nid oedd efe o'r un natur a'i wraig. Teimlodd i'r byw, ond nid ydoedd mor emotional a'i briod. Parchai fy nhad a Peter Jones deimladau y fam. Yn y man tarawodd rywbeth Peter, ac aeth at ei wraig, rhoddodd ei law ar ei hysgwydd, a dywedodd, "Paid a chrio, Siani bach, ydi Evan ni ddim ei hunan yn mhlith estroniaid, o nag ydi, yr oedd o yn ormod o ffrynd i'r 'Cyfaill a lŷn yn well na brawd,' iddo fo ei adael o mewn cyfyngder." Edrych- odd Siani yn myw llygad Peter, a gwenodd gan ddyweyd, O ydi, Peter bach, mae hi yn ol reit efo Evan, 'roedd o ac Iesu Grist yn gryn ffrindiau." Nid hir y bu Sian Jones cyn sychu ei llygaid gyda'i ffedog stwff cartref. Hen wr dewr oedd Peter Jones, o'r Merddyn Mared, wedi hyny o'r Rhydwen. Hen grefyddwr distaw. Chlywais i neb erioed yn dyweyd eu bod wedi ei glywed yn gorfoleddu amser Diwygiad Crefyddol, na'i fod erioed wedi rhoddi rhyw "amen" uchel iawn; ond nid oedd hyny yn arwydd yn y byd nad oedd " ysbryd ysbryd y peth byw" ganddo. Ie, hen wr brave oedd Peter Jones, fel y cawn weled yn mhellach yn mlaen.

D'OD ADREF.

Yn mhen ychydig o ddyddiau cafodd fy nhad ail lythyr o Lundain, wedi ei ysgrifenu yn llaw dda ac eglur Evan Peters, yn yr hwn y dywedai ei fod yn gwella yn gyflym, ac y deuai adref cyn gynted ag y cai ganiatad y meddygon. Da y cofiaf y prydnawn y daeth adref yn y goach fawr o Llangollen Road. Yr