Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/203

Gwirwyd y dudalen hon

oedd tyrfa fawr wedi dyfod at y White Lion i'w ddisgwyl, a mawr oedd yr ysgwyd dwylaw. Yr oedd Peter a Siani Jones hefyd wedi dyfod i gyfarfod eu mab. Pan ddaeth y mab i fewn i'r ty—wel, mae'r olygfa yn rhy gysegredig—tynwn i lawr y llen.

Gwellhaodd E. Peters yn gyflym o dan ofal ei fam. ac awelon iachus Mynydd y Berwyn, lle porai deadelloedd Peter Jones. Yn fuan wedi hyn ymadawodd y Parch. John Williams i Landrillo i fod yn agent i Lord Ward, a chymerodd Evan Peters ei le fel ysgolfeistr, ac yn lled fuan wedi hyny dechreuodd bregethu. Ar ol agor y British School yn 1855 gan Mr. John Price, yn awr o'r Normal College, Bangor, symudodd Mr. Peters i Tynewydd, Talybont, ger y Bala, lle bu yn ffarmio am flynyddoedd, ac yn cadw ysgol yn y capel. Bu eglwysi Talybont, Llidiardau, a Celyn o dan ei ofal am flynyddoedd.

PRIODI.

Pan yn ysgolfeistr yn y Bala elai yn ol a blaen i'r Rhydwen bob wythnos, a galwai yn fynych iawn yn y Ty Cerig, hen gartref Mr. Thomas Ellis, Cynlas, fel y buom yn dyweyd o'r blaen. Yr oedd yno ddwy ferch, Gwen a Catherine, ac nid ydoedd yn beth rhyfedd fod y llanc parablus wedi syrthio dros ei ben mewn cariad â'r hynaf o'r ddwy. 'Doedd hyny ond true to nature, fel y dywedai Wil Bryan. Unwyd y ddeuddyn hapus mewn glân briodas, a chafodd ysgrifenydd yr Adgofion hyn y fraint o fod yn bresenol ar yr amgylchiad. Mae Mrs. Peters yn fyw eto, ac yn iach a heini. Ar farwolaeth Mr. Peters, fel y dywedais o'r blaen, rhoddodd plant ysgolion Sabbothol pum' plwy' Penllyn gofgolofn hardd ar ei feddrod.

PETER JONES AC ETHOLIAD 1859.

Mae pobl y Bala yn cofio yn dda am etholiad fawr 1859, pryd y daeth Mr. David Williams, Castell Deudraeth, allan yn erbyn Mr. Wynne, o Beniarth, yr hwn