Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/205

Gwirwyd y dudalen hon

meistr tir ac amryw ereill yn bresenol. Daliai pawb ei wynt yn ei ddwrn. "Wel, Peter Jones," meddai arolygydd y bleidesfa, "dros pwy ydech chwi yn myn'd i fotio?

"Dros Dafydd Williams, Castell Deudraeth," meddai'r hen wr yn dawel. Yn y grug yr oedd Peter Jones wedi tori y ddadl. Nid anghofiaf byth yr olygfa pan ddaeth yr hen wron allan o'r neuadd. Yr oedd Evan Peters yn barod i orfoleddu. Ni chafodd tywysog erioed fwy o groesaw nag a gafodd yr hen wron y prydnawn hwnw ar Heol Fawr y Bala. Ni adroddaf beth a ddigwyddodd ar ol yr etholiad, digon yw dyweyd mai Mr. Morris Peters, mab ieuengaf Peter Jones, gafodd y fferm, ac mai efe sydd yn byw yno hyd y dydd heddyw.

GWYL ARBENIG.

Diwrnod mawr yn Rhydwen fyddai diwrnod cneifio, dyna yr wyl arbenig." Rhifai defaid Peter Jones ganoedd lawer, ac nid wyf yn meddwl y gwyddai ef eu rhifedi, mwy nag y gŵyr Morris Peters yn awr rifedi ei ddefaid ef, a mwy nag y gwyddai Abraham rifedi ei ddeadelloedd pan oedd efe yn Ngwastadedd Mamre. Nid oedd gan Peter Jones gymaint ag oedd gan Job o ddefaid pan oedd ef yn ngwlad Us, rhifai ei ddefaid ef saith mil, ond fe glywais lawer tro fod gan wr y Rhydwen yn mhell dros fil o ddefaid yn pori ar fryniau y Berwyn. Ie, diwrnod mawr oedd diwrnod cneifio, fel y canodd Ceiriog yn ddoniol,—

"Sŵn y gwelleifiau mewn 'sgubor a buarth,
Hyrddod yn ymladd 'rol stripio eu gwlan;
Cwn yn brefu, a defaid yn cyfarth,
A'r crochan pitch yn berwi i'r tân."

Fy hoff waith i oedd cael myn'd i'r Wyl fawr i Rhydwen, ac hefyd i'r Wenallt, Gilrhos, a'r Ty Cerig. Yn y lleoedd hyny y dysgais y gelfyddyd o "argraphu,"