Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/21

Gwirwyd y dudalen hon

welwn oedd rhestr o'r rhai oeddynt wedi eu hethol y diwrnod cynt, ac yn eu plith Love Jones-Parry, dros Sir Gaernarfon, gyda mwyafrif o 148, a E. Mathew Richards, dros Sir Aberteifi, gyda mwyafrif o 152. Ni fuaswn yn crybwyll y ffaith hon ond am ei bod wedi digwydd fy mod yn darllen y ffigyrau uchod o oruchaf iaeth Rhyddfrydiaeth mewn dwy o siroedd mwyaf Toriaidd Cymru, yn yr ystafell hanesyddol lle y llechai ynadon Casnewydd, pan daniodd y mob Chartaidd arnynt yn y flwyddyn 1848, ac y mae ol bwledi y terfysgwyr i'w gweled ar barwydydd yr ystafell hyd y dydd heddyw.

Yn ystod deunaw mlynedd o deithio, y rhan fwyaf yn Ngogledd Cymru, gwneuthum laweroedd o gyfeillion, ac y mae y cyfeillgarwch yn parhau hyd y dydd heddyw, fel y gwelir yn neillduol yn rhestr y tanysgrifwyr at y gyfrol fechan hon. Gofod a balla i mi adrodd llawer digwyddiad dyddorol a gymerodd le yn ystod y deunaw mlynedd o fywyd teithydd masnachol. Yn y flwyddyn 1871 y digwyddodd yr amgylchiad mwyaf dyddorol a phwysig yn y cyfnod hwn, ac yn fy mywyd hefyd o ran hyny, oblegid mi a briodais wraig, un o ferched goreu Ynys Mon, yr hon sydd er's yn agos i bedair blynedd ar hugain wedi bod i mi yn gydmar ffyddlawn, ac fel angyles yn gweini arnaf gyda phob sirioldeb ac amynedd yn ystod fy mlin a'm maith gystudd, ac wedi helpu llawer arnaf i gasglu fy ADGOFION at eu gilydd. Bendith y nefoedd fyddo ar ei phen.

Y GWYNTOEDD A DDAETHANT.

Pan ar ben dwy flynedd a deugain oed, "Y llifddyfroedd a ddaethant, a'r gwyntoedd a chwythasant" ar y babell bridd hon, "a'i chwymp a fu fawr." Yn y flwyddyn 1884 ymaflodd hen elyn y corph dynol, a'r "swmbwl yn y cnawd," y crydcymalau, yn fy aelodau. Ymdrechais ymdrech dêg i ymladd â'r gelyn, ond efe a orfu. Gweinyddwyd arnaf gan rai o feddygon goreu Cymru a Lloegr, ond y gelyn a fu drech na hwynt, ac yr ydwyf er's deng mlynedd yn rhwym mewn cadwynau.