Nid boddlawn gan y poenydiwr fy mhoenydio â gwiail ac ysgorpionau, rhaid iddo roddi fy nhraed yn y cyffion a'm carcharu. Ond er mai carcharor ydwyf, yr wyf yn "garcharor gobeithiol." Oblegid credu yr ydwyf y daw ymwared pan ddel yr amser cyfaddas, a hyny yr ochr yma i'r bedd. Yr ydwyf wedi cael nerth trwy'r holl flynyddoedd i fod yn llawen a siriol yn fy holl brofedigaethau, ac yr oedd i bob cwmwl a fu yn hofran uwch fy mhen "silver lining," ac erfyniaf am nerth i ddweyd hyd ddiwedd fy ngyrfa, "Dy ewyllys Di a wneler."
Dyna, yn fyr ac yn fler, ddarllenydd hynaws, "Dipyn o fy Hanes," ac yr ydwyf yn sicr y bydd i ti, o dan yr amgylchiadau, faddeu i mi am lawer o ffaeleddau sydd wedi ymlusgo i'r gyfrol fechan a gynygiaf i'th sylw.
A GAF FI FENDIO ETO?
Tra yn aros yn yr Hydropathic, yn Llandudno, am rai wythnosau yn ngwanwyn 1885, gyrais y penillion a ganlyn at fy hen gyfaill hoff, y diweddar Mr. J. D. Bryan, Caernarfon, yr hwn a fu farw yn Cairo, ac y mae ei gorph yn gorwedd yn dawel yn ngwlad y Pharoaid. Gyrodd yntau y llinellau i'r Genedl Gymreig:
A gaf fi fendio eto? |