Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/27

Gwirwyd y dudalen hon

EDWARD JONES O'R WENALLT.

NID bardd, nid llenor, ac nid cerddor oedd Edward Jones o'r Wenallt. Na, dim ond ffermwr bychan ar stad Syr Watcyn; "bwtsiar" bychan yn gwerthu cig bob dydd Sadwrn mewn "stondin" wrth dŷ tafarn yr Onen, yn Stryt Fawr y Bala. Ond er

EDWARD JONES.


mai ffermwr bychan oedd, ac y byddai yn gwisgo ffedog las ac yn sefyll y stondin" ar stryd y Bala, ni phasiodd Dr. Lewis Edwards na Dr. John Parry erioed mo "stondin" Edward Jones heb droi i ysgwyd llaw. Ni phasiodd chwaith yr hen Fichael Jones na'i fab mo'r