"stondin" heb nodio pen yn siriol. Chymerasai dim un o fyfyrwyr y Bala, o David Charles Davies, y cyntaf ar restr y Coleg y dydd yr agorwyd ef yn 1837, hyd un o'r bechgyn oedd yn un o'r ddau goleg pan fu Edward Jones farw yn 1880,-ni chymerasai yr un o honynt lawer am basio " bwtsiar bach" heb nodio pen, a chael sgwrs efo fo. Pam, a oedd ein gwron yn rhyw dduweinydd mawr, neu beth? Nag oedd, ond yr oedd yn ddyn duwiol, yn hen wr siriol, ac wedi rhoddi help i lawer o fechgyn y coleg pan yn dechreu pregethu, gyda'i wyneb siriol a'i eiriau caredig. Os bydd i un o'm darllenwyr ddigwydd teithio o'r Bala i Ddolgellau gyda'r trên, a chyfarfod ag un o hen fyfyrwyr y Bala, boed pwy fyddo, golygydd y Traethodydd, y Drysorfa, a Chymru, os mynwch, gofyned," Fedrwch chwi ddangos y Wenallt i mi? Oeddych chwi yn adnabod Edward Jones? Dyma fydd yr ateb,—"Dacw y Wenallt ar ben y bryn acw; adnabod Edward Jones, oeddwn debyg. Cefais lawer sgwrs efo fo yn y ty acw yr ydych yn edrych arno, pan yn myn'd ac yn dyfod i gapel Cefn Dwygraig."
I. YR HEN WENALLT.
Safai yr hen Wenailt mewn pantle, rhwng y fan y saif y Wenallt presenol a'r llwyn o goed a elwir Nyrs Fachddeiliog, yn ymyl hen orsaf ffordd haiarn y Bala. Yr oedd ei safle yn nodweddiadol o arferiad yr hen bobl pan yn adeiladu eu tai. Yr oeddynt yn meddwl mwy am gysur a chynhesrwydd nag am olygfeydd. Ysbotyn felly ydyw y Pant Teg, lle safai yr hen Wenallt. Lle felly fyddai y Tylwyth Teg yn ei hoffi, a llawer oedd yr ystraeon am fel y byddai y bodau hyny yn chwareu eu pranciau yn Mhant Teg y Wenallt. Darfu i'r diweddar Edward Evans, y Bala, lawer tro pan oeddwn yn hogyn bychan, ddangos i mi ryw gylch ar y ddaear; dyna ddwedai ef oedd y lle y byddai y Tylwyth Teg yn dawnsio. Wel, ryw brydnawn Sabboth yn y flwyddyn 1820, yr oedd teulu y Wenallt wedi myn'd i'r ysgol a gynhelid yn y Cornelau, ffermdy yn Nghefn Dwygraig,—