yr oedd hyny cyn son am gapel y Glyn, Cefn Dwygraig, na Llwyneinion, pan ddaeth y teulu yn ol o'r Ysgol Sul, gan feddwl cael cwpanaid o dê yn yr hen gartref clyd, yr oedd yr hen gartref wedi llosgi i'r llawr, ac ni achubwyd dim o'r dinystr ond dau beth, medd yr hanes, sef cloc gwyneb pres, a hen Feibl Peter Williams, yr hyn oedd yn wyrth yn sicr. Mae llawer o hen fyfyrwyr y Bala yn cofio hen gloc gwyneb pres y Wenallt, fyddai fel holl glociau y wlad, "awr cyn ei amser."
Pan ddeuai myfyriwr newydd i'r Bala, a chychwyn i Gefn Dwygraig tua haner awr wedi wyth, i fod yno erbyn naw,—gwaith haner awr ydoedd y daith,—byddai wedi dychryn pan welai yr amser ar yr hen gloc, ond dywedai Sarah Jones yn siriol,—"O mae'r hen gloc awr yn ffast." Am Feibl Peter Williams, cafodd llawer myfyriwr ddarllen penod ynddo, wrth gadw dyledswydd yn y Wenallt. Fel y dywedais o'r blaen, ar ben y bryn y mae y Wenallt newydd, a gwelir o ddrws y ty olygfa. ardderchog. Teulu y Wenallt pan aeth ar dân oedd Evan a'i wraig Mari Jones. Yr oedd iddynt wyth o blant. Aeth y ddau fab hynaf Evan a Morris i'r Amerig pan yn ieuainc iawn. Bu rhai o'r plant drosodd yn y wlad hon flynyddoedd yn ol. Dringodd rhai o honynt i sefyllfaoedd uchel mewn cymdeithas, a buont yn anrhydedd i wlad eu tadau. Os wyf yn cofio yn iawn bu un o honynt mewn sefyllfa bwysig yn un o Brifysgolion gwlad yr Amerig. Aeth Peter Jones i gartrefu i'r Merddyn Mared, ac wedi hyny i'r Rhyd Wen, lle y mae yn awr ei fab Morris Peters,—brawd iddo ef oedd Evan Peters, yr arch-holwr plant, a Mr. Edward Peters, tad Dr. Peters, Bala. Yr oedd Peter Jones yn un o ferthyron brwydr fawr etholiadol Wynn o Beniarth a Dafydd Williams. Cartrefodd John yn y Gilrhos; bu farw yn lled ieuanc, ond bu fyw ei wraig Mari am lawer o flynyddoedd, a bydd genyf gryn enyf gryn lawer i ddweyd am yr hen chwaer cyn y diwedd. Edward, y mab ieuengaf, ydyw arwr fy ysgrif. Bu hefyd i'r hen deulu dair merch,—sef Jane, Anne, ac Elizabeth, hon