Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/31

Gwirwyd y dudalen hon

2. EDWARD JONES.

Ganwyd ein gwron yn y flwyddyn 1796. Cafodd ryw anhwyldeb pan yn blentyn, a bu yn gloff hyd ei fedd. "Dyn cloff oedd Jacob," meddai John Hughes, Gwyddelwern, wrth bregethu yn y Bala un boreu Sul, "dyn cloff fel Edward Jones y Wenallt; dacw fo i chi dirion dyrfa, yn y fan acw. Mae pawb ohonoch chi yn ei 'nabod o, yn myn'd i fyny ac i lawr, ac i lawr ac i fyny. Yr oedd gan Jacob, er ei fod yn gloff, fendith ar ei ben, felly y mae Edward Jones, dirion dyrfa, mae ganddo yntau ei fendith ar ei ben."

Dyn bychan oedd Edward Jones, bochgoch, siriol yr olwg, gyda dau lygad du yn llawn o'r wag direidus. "Y chdi" fydde Edward Jones yn ddweyd wrth bawb ond Dr. Edwards, Dr. Parry, a Mr. Williams, Gwernhefin (tad y Mr. Williams presenol). "Chdi" fydde fo yn ddweyd wrth yr "Hen Breis," gan mai chdi fydde Mr. Price yn ddweyd wrtho ynte. Un tro daeth cerbyd Mr. Price o hyd i Edward Jones wrth Bont Mwnogl y Llyn. Yr oedd y gŵr cloff y diwrnod hwnw yn cerdded i'r Bala. Tyrd i fyny, Hedward, wyt ti yn cloff, ro i lifft i ti i'r Bala. Darfu mi cyfarfod claddedigaeth wrth Ty'n y Gwrych, pwy oedden nhw claddu, Edward? "O Shon Wiliam o'r Mr. Price." "Tŷn ta iawn oedd hi Hedward, tŷn ta iawn ydi Lewis Edwards. Wel pyddwn wedi marw i gyd ryw ddiwrnod Edward, os byddwn ni byw ac iach." "Byddwn, Mr. Price bach, bob enaid' ohonom," meddai y dyn bychan yn ddifeddwl. "Dynion da yden ni y Methodust i gyd, Mr. Price." Adroddai Edward Jones y stori hon gyda hwyl anarferol. Cyn marw Shon Evan y Gilrhos, ei frawd, bu y ddau yn bartneriaid yn y "busnes lladd am flynyddoedd, a pharhaodd y bartneriaeth ar ol i Shon Evan farw, rhwng Mari ac Edward Jones. Er mwyn i'r darllenydd ddeall fy mod yn awdurdod ar y pwnc yr wyf yn ysgrifenu arno, gallaf ddweyd yn y fan hon mai mam fy nhad oedd Mari Jones, ac felly yr oedd