Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/32

Gwirwyd y dudalen hon

yn nain i minau. Yr oedd busnes y lladd yn rhedeg yn ngwaed pobl y Wenallt, a byddaf yn aml yn synu na. fuaswn inau wedi cadw i fyny y gelfyddyd dreftadol. Ond y mae llawer o bethau eisieu eu lladd" heblaw ychain, defaid, a lloi; a charwn fod yn foddion i ladd rhai o honynt, sef llawer o hen arferion drwg yr oes.

Y lladd-dy cyntaf ydwyf yn ei gofio oedd lle 'nawr y saif Trem Aran, ar gyfer yr hwn yr oedd hen bydew, ac wedi hyny pwmp. Wedi hyny symudodd Edward Jones i "ladd-dy Gras." Deallwch mai enw hen wraig oedd Gras, ac nid enw ar oruchwyliaeth; oblegid nid oes lladd mewn "gras." Wel, safai ty lladd "Gras" y lle'n awr y saif Henblas Terrace, ar gyfer y Shop Newydd. Yn y fan hono y byddai ein gwron yn lladd bob dydd Gwener, a'i "bartneres" Mari Jones yn "hel gwêr," ac yna yn myned a fo i Simon Jones i wneyd canhwyllau. Felly yr oedd Edward Jones, nid yn unig yn cyflenwi angenrheidiau y corff ond hefyd yn gwneyd ei ran i oleuo trigolion Penllyn.

3. YN Y STONDIN.

Dydd Sadwrn fyddai diwrnod marchnad y Bala, a phob boreu marchnad yn gynharol gwelid y partneriaid yn y stondin wrth yr Onen, Edward Jones gyda'i gôt lian glas, a ffedog, a'r steel yn hongian wrth ei wregys. Eisteddai Mari Jones yn dawel ar y fainc, yn gweu â'i holl egni. Fedrai fy nain ddim byw heb wneyd rhywbeth, a phe dasai y Sasiwn wedi pasio penderfyniad fod rhyddid i hen wragedd weu hosan yn y seiat neu y cyfarfod gweddi, buasai yr hen wraig o'r Gilrhos. wedi gwaeddi,—"Bendigedig." Byddai ysgrifenydd y llinellau hyn yn aml heb fod yn mhell o'r stondin ar ddydd Sadwrn, a llawer leg, spawd, a nec o gig dafad a gariodd efe i'r cenhadon hedd oedd yn efrydu yn Ngholeg y Bala. Cariodd hefyd lawer pen dafad a phen llo, o ran hyny, nid am fod yr un ohonynt ei eisieu ond fel