Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/36

Gwirwyd y dudalen hon

Fyddai Edward Jones yn gwneyd fawr iawn efo Dyddiadur. Ryw fath o chapel of ease i'r Bala oedd Cefn Dwygraig, ac i'r Bala yr elai y bobl bron bob nos Sabboth, a phob Sabboth Cymundeb. Cynhelid cyfarfod gweddi ambell nos Sabboth yn y Cefn, er mwyn y plant a'r hen bobl. Y daith Sabbothol fyddai'r Glyn, Cefn Dwygraig, a Llwyn Einion. Pan deimlai Edward Jones ar ei galon i gael pregethwr "i nhw eu hunen," ni chai fawr o drafferth. Elai i un o'r lletyau lle y trigai myfyrwyr, a gofynai i wraig y ty,—"Oes yma un o'r bechgyn gartre fory?" ac yna ai yn syth i'r parlwr a dywedai, Ddoi di acw fory, machgen i, i ni gael dy ddysgu di sut i bregethu?" Wrthododd dim un erioed mo'r blaenor bach. Y tro olaf y bu yr hen gyfaill anwyl Dr. John Hughes yn edrych am danaf yn yr Hydref diweddaf, dywedodd wrthyf,—"Darllenais eich ysgrif am y Bala yn y Cymru; bryd yr ydach chi yn mynd i ddweyd gair am yr hen Edward Jones o'r Wenallt? Pan aethum i i'r Bala yn 1848 (meddai'r Doctor), daeth yr hen fwtsiar bach ataf i'r Dirwesty lle yr oeddwn yn lodgio, a medda fo,—'Ddoi di atom ni fory machgen i, i ni gael gwybod oes defnydd pregethwr ynot ti, rhai iawn ydi bechgyn sir Fon i gyd.' Aethum yno, ac ar ol i mi ddarfod pregethu daeth y blaenor bach ataf, curodd fy nghefn, a dywedodd,—Da machgen i, pregetha di fel yna bob Sabboth, mi fyddi di yn un o'r pregethwyr goreu yn y Coleg cyn yr ei di o'r Bala.' Ie, dyna yr ymgom olaf a gefais i efo Dr. Hughes. Toc wedi i Edward Jones gael ei wneyd yn flaenor aeth Dafydd Jones Ty'n y Bryn i ffwrdd am Sul, a syrthiodd y gwaith o dalu y degwm i'r pregethwr ar Edward Jones. Yr oedd wedi lladd llo ddydd Gwener, oedd wedi ei brynu yn Mhant yr Onnen, ger Llangower. Yr oedd yn myn'd i'r Ty Cerig ddydd Llun i brynu defaid gan Mr. Thomas Ellis, Ty Cerig (Cynlas yn awr), ac wedi gwneyd arian y llo yn sypyn bychan mewn papyr lwyd i dalu i Mr. Robert Roberts, Pant yr Onen, wrth fyned heibio i'r Ty Cerig. Rhoddodd yr arian yn ei