Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/37

Gwirwyd y dudalen hon

boced. Wrth gychwyn i'r capel y boreu Sul hwnw, rhoddodd gwr y Wenallt gydnabyddiaeth y pregethwr yn ei boced. "Deunaw" oedd cydnabyddiaeth Cefn Dwygraig y pryd hyny i'r myfyrwyr, ond rhoddid haner coron i ddau athraw y Coleg bob amser. "Haner coron" hefyd oedd cydnabyddiaeth Owen Thomas ar ol iddo fyn'd i Lerpwl, am mai hyny oedd yr hyn a delid i Henry Rees. Cafodd John Jones, Talysarn, hwyl anarferol yno un prydnawn Sul; yr oedd yn pregethu allan o'r ffenestr, a chafodd ef dri a chwech am y bregeth hono. Hysbysir fi gan Iorwerth Jones fod cydnabyddiaeth Cefn Dwygraig wedi codi tipyn erbyn hyn; felly os oes gan rai ohonoch chwi tua sir Fon neu sir Gaernarfon yma Sul gwag, ymohebwch â phen blaenor Cefn Dwygraig. Wel, y pregethwr a ddigwyddai fod yn Nghefn Dwygraig y Sabboth yr oedd Edward Jones i dalu am y tro cyntaf, oedd Dafydd Williams, Llwyn Einion. Talodd y blaenor iddo y "degwm cil dwrn" yn y ty capel, ac aeth pawb i'w ffordd. Ar ol tê, a phan yr oedd blaenor y Wenallt yn hwylio ati i gael "mygyn, mygyn," rhoddodd ei law yn ei boced i dynu allan y "blwch baco corn." Neidiodd ar ei draed a gwaeddodd ar y gwas dros y ty,—"Ned, Ned, yr ydw i wedi rhoi arian y llo i Dafydd William, dos ar i ol o Ned, mewn munud, i nhol nhw, a hwde doro y ddeunaw yma iddo fo. Brysia, ne mi ddylith Dafydd mai fo ydi Henry Rees wrth gael dwy bunt a chweigien." Bu hyn yn wers i'r blaenor bach; gofalodd, byth wedi hyny, beidio cymysgu "arian y llo" âg "arian y pregethwr."

Nid yn unig y mae "degwm" Cefn Dwygraig wedi "codi," y mae yno gapel newydd wedi ei godi y flwyddyn y bu farw Edward Jones, 1880; a gellir yn hawdd ei alw yn "Gapel Coffadwriaethol." Y dydd yr agorwyd y capel, yr oedd pob swllt wedi ei dalu, a chyflwynwyd llestri cymundeb i'r eglwys gan Mr. a Mrs. Jones, Bryntirion, caredigion penaf yr achos. Bendith y Nefoedd a fo arnynt hwy a'u hanwyl fab.