Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/39

Gwirwyd y dudalen hon

mul wrth y tyrpec isaf. Ysgydwodd y rhai a enwais law gyda'r hen wr, a chafodd pob un ohonynt ryw air ffraeth a siriol ganddo. Y mae y ffaith hon wedi ei hen anghofio gan y rhai sydd yn fyw o'r rhai a enwais, ond mae fy nghyfaill o Fangor (yr Henadur J. E. Roberts, Y.H.) yn cofio yn dda, ac os bydd raid daw allan i brofi y pwnc. "Pwy oedd yr hen wr yna, deudwch?" meddai fy nghyfaill ar y pryd, "bron nad ydyw yn gwneyd i rywun gofio am amgylchiad a ddigwyddodd yn Jerusalem,—gyda pharch y dymunaf ddweyd," meddai'r cyfaill. "Ond pwy ydi yr hen wr yma sydd yn cael y fath groesaw gan ddynion goreu Cymru?" "O!" meddwn inau,"dyna

EDWARD JONES O'R WENALLT."