Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/41

Gwirwyd y dudalen hon

ryw fodau rhesymol eraill, gyda gwên hawddgar ar eu gwynebau; ond arhoswch dipyn, gadewch i'r brawd gael eistedd ar glustogau esmwyth agosaf i'r pwlpud, a theimlo pwysau swyddogaeth ar ei ysgwyddau, a dyna fo yn y fan yn cael "gwedd—newidiad," ond cofier mai eithriadau ydyw y rhai hyn ac nid y rheol.

Yr ydw i yn methu dallt athrawiaeth y cyfnewidiad yma. Os ydyw dyn wedi cael swydd mewn eglwys, pa'm raid iddo dynu gwyneb hir, ac edrych mor ddifrifol a phe b'ai yn sefyll wrth fedd ei nain? Yn lle edrych yn ddifrifol ac yn wyneb—drist, dylai fod yn siriol a gwyneb—lawen; oblegid braint ydyw cael bod yn swyddog yn eglwys Dduw.

Wel, daeth y noson fawr o'r diwedd. Yr oeddwn yn gwybod fod tipyn o si wedi bod y byddai Ned Ffowc yn un o'r etholedigion, er na wyddwn i yn y byd am un cymhwyster neillduol oedd yn perthyn i mi, heblaw y byddwn yn cael tipyn o hwyl wrth holi'r ysgol. 'Roeddwn hefyd yn Nazaread o'r groth, ac yr oedd hyny yn llawer. Wel, ar ol i mi fyn'd adre o'r chwarel, yr oedd y tê yn barod, a Sara a'r plant wedi gwisgo am danynt yn drefnus yn eu dillad capel. Yr oedd Sara wedi d'eud wrth y plant druain fod rhywbeth mawr iawn yn myn'd i gymeryd lle yn y seiat, a bod rhaid iddynt fod yn blant da, ac yn reit ddistaw pan ddown i adra o'r chwarel. Dyna lle yr oedd y pethau bach mor ddistaw a llygod, ac yn edrach mor ddigalon a phe baswn i yn myn'd o flaen y stusiaid am ladd sgwarnog.

Wel, i'r capel a ni bob un ond y babi a'r hogan hyna i edrych ar i ol o:—y plant yn cerdded o'n blaen a Sara yn closio ataf ac yn d'eud, Treia dy ore feddianu dy hunan, Ned bach." 'Roedd yn seiat fawr, fel y bydd bob amser pan y bydd rhywbeth ar droed; ac yn enwedig os bydd rhyw olwg am dipyn o row. Eisteddai pedwar gŵr diarth yn y sêt fawr, wedi dyfod gymeryd llais yr eglwys. Dechreuodd un trwy weddi, ac yna traethodd y tri arall dipyn ar y pwysigrwydd o