GARTREF.
Yr oedd Sara a'r plant wedi cyrhaedd adref o'm blaen; ac wedi i mi fyn'd i'r ty, dyna lle yr oeddynt yn eistedd fel delwau wrth y tân, a Sara yn edrych yn syn a difrifol. Gwelais y sefyllfa yn y fan. Yr oedd y plant yn meddwl fod rhyw gyfnewidiad mawr i ddyfod ar y teulu; fod dyddiau y sach—lian a lludw, a'r ymprydio wedi dechreu ar ein haelwyd lawen. 'Doedd dim golwg am damaid o swper. Yr oedd y tegell ar y tân yn canu, fel y dywedodd Mr. Spurgeon,—fel "angel du ansyrthiedig. Yr oedd yr ochr cig moch uwch ben y ty yn disgwyl cael gwneyd croesaw i'r blaenor newydd, y gath yn mewian, ac yn rhwbio ei chroen sidanaidd yn fy nghoesau, ond y wraig a'r plant fel pe wedi eu syfrdanu. Pam? Dim ond eu bod yn deall oddiwrth draddodiadau na ddylai blaenor fod â gwên ar ei wefusau.
Eisteddais i lawr a daeth Wil bach ataf. Hogyn pert ydi Wil. Eisteddodd ar fy nglin, ac ebai y bychan :
"Tada, chawn i ddim swper heno?"
'Pam, machgen i?"
"Wel, roeddwn i yn meddwl ein bod yn myn'd i ddechre ymprydio heno."
"Taw a dy lol, Wil, da ti," a gwaith munud oedd tori sglisen o'r cig moch; a welsoch chi 'rioed fel yr oedd Sara wrthi yn paratoi! Yr oedd y miwsig ar y badell ffrio, a sŵn y llestri tê yn ei gwneyd hi yn anhebyg iawn i dŷ ympryd.
SARA.
Ni wisgodd erioed esgid well dynes na Sara. Y mae ganddi hi ei gwendidau fel pob gwraig arall, ond rhai hynod o ddibechod ydynt. Dynes dda oedd Sara gwraig Abram; ond yr oedd ganddi lawer mwy o wendidau na Sara gwraig Ned Ffowc. Pan aeth y