"Paid a'm galw i yn feistar, Lewis bach; cofia mai Ned Ffowc ydwi fel yr oeddwn tua phymtheng mlynedd ar hugain yn ol, pan oeddem ni yn hogia gyda'n gilydd. Wyt ti yn cofio fel y byddem yn chwareu efo'n gilydd ar lan y llyn isa ar brydnawniau Sadwrn. Llawer 'sgodyn ddaru ni ddal yn te, Lewis. Wyt ti'n cofio, co bach, yr hogia eraill, fydda yn cyd—chwara â ni yn Nghloddfa'r coed, sef Bob Typɔbty, Dafydd Lloyd, Price Griffith, a Morris ———— Wyt ti'n cofio fel y bydda ni ambell noson seiat a chyfarfod gweddi yn myn'd i gyd i'r un sêt, ac yn poeni ysbrydoedd cyfiawn yr hen flaenoriaid anwyl—Edward Wiliam a John Robins."
Erbyn hyn yr oedd y dagra yn powlio i lawr wyneb yr hen ôf, ac yntau yn sychu ei wyneb â chefn ei law nes gadael stripen ddu ar draws ei drwyn.
"Na, paid a'm galw yn Mr. Ffowcs eto, Lewis."
"Wel, yn tydi pawb yn lecio cael eu galw yn fistars ac yn fistresus 'rwan, Ned. Welaist ti y wraig hono oedd yn dy gyfarfod di pan oet ti yn dwad i fyny y lon yna, Mrs. Jones wst ti."
"Pwy Mrs. Jones? Yr oedd hi yn rhy dywyll i mi gwel'd hi yn iawn, ac yr oedd ganddi fêl ar ei gwyneb."
"O, Catrin Wil Robin Shon fydde ni yn ei galw hi cyn iddi gael y cant a haner pres rheini ar ol yr hen gyb o ewythr fu farw yn perthyn iddi hi yn y Mericia, ond Misus Jones bob gair yrwan, if you please. A dyna wraig y Twmpath drain, gwraig Benja Twm Wil Catsen, Mrs. Wilias ydi pob peth rwan. Mae yr hogyn hyna wedi cael myn'd yn glarc yn yr offis, ac wyddos ti be ma nhw wedi neud? Y mae nhw wedi newid enw y ty i Thorn Bush House. Grand yn te?
"Wel, Lewis bach, nid dwad yma i drin achos pobl a'u henwa ddaru mi, ond i dreio fy ngore gen't ti ddwad i'r Ysgol Sul."
"O brensiach mawr, Ned; wyt ti wedi dechra blaenora? Mi weli yn fuan dy fod wedi dyfod i'r rong siop. Rwyt ti yn gwybod am dana i, Ned, dim lol wst ti. 'Does gen i fawr iawn o ffydd mewn crefydd rhai