Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/47

Gwirwyd y dudalen hon

pobol fel y mae hi yn cael ei chario yn mlaen ganddyn nhw y dyddia yma. Tipyn o sham ydi eu crefydd nhw yn awr—tipyn o gilt ar haiarn bwrw. Weli di yr hen bedol yna, Ned, 'dawn i yn gyru hona i Birmingham, i gael ei golchi hefo gilt, buasai pawb yn meddwl mai pedol aur fase hi. Wyddost ti y chestar drôr sy gan Dic Shonat, mahogany, medda fo, ond 'dydi o ddim mwy o fahogany nac ydi coes y morthwyl yma. 'Does dim ond haenen dena o ffinâr ar goed ffawydd. Sham i gyd, Ned; ac felly y mae hi efo crefydd llawer o honoch chi. Paid ag edrych mor ffyrnig, Ned, ne mi ddylia i dy fod yn un o honyn nhw, ond 'dwyt ti ddim chwaith."

"Lewis anwyl, mae arna i ofn dy fod di wedi myn'd yn rhy bell i'r Efengyl na gras allu dy achub di."

"Beth, wyt ti'n meddwl mod i yn waeth na'r lleidr ar y groes? Mi gafodd hwnw fyn'd i'r nefoedd yn yr un cerbyd a Iesu o Nazareth, Brenin yr Iuddewon."

"O, Lewis bach, wyddost ti ddim mor dda gen i fase dy wel'd di yn sadio tipyn. Yr wyt ti yn fwy hyddysg na'n haner ni yn y 'Sgrythyr, ac y mae tipyn o'r gilt a'r ffinâr o'th gwmpas ditha hefyd. Yr wyt ti'n teimlo mwy nag wyt ti'n ddangos. 'Dydw i ddim am dy roi di i fyny, mi weddia drosta ti bob nos a bora." Ie, gwna, Ned bach, oblegid llawer a ddichon taer weddi y cyfiawn. 'Does gen i ddim yn erbyn gwir grefydd, 'machgen i, ond yn erbyn y rhai sydd yn proffesu yn anheilwng, er fod raid i mi ddeud fod llawer iawn o bobl wir dda yn mhob enwad, o oes. Mae arna i eisio gweled mwy o grefydd y Samariad trugarog a llai o grefydd y Lefiad annrhugarog. Os oes gen't ti amser mi ddeuda i stori fach i ti ar y pwnc."

"Oes, digon o amser, Lewis; dechra arni."

MARI DAFYDD.

"Mewn ardal yn sir Gaernarfon yr oedd gwraig weddw—Mari Dafydd oedd ei henw hi. Yr oedd hi wedi colli ei gwr er's haner blwyddyn, a chwech o blant