eisieu eu magu, yr hynaf o honynt ddim ond deuddeg oed. Y nos Sadwrn cyn y 'Dolig yma, yr oedd tri o`r plant yn gorwedd yn sâl o'r frech goch, ac felly yr oedd Mari yn methu myn'd yn mlaen gyda'i gwaith gwnio, trwy yr hyn y byddai yn cael tamed iddi hi a'i phlant. 'Doedd dim tamed o fwyd yn y ty, a hithau yn nos Sadwrn 'Dolig. Rhoddodd ei bonat am ei phen, a rhedodd i dy un o flaenoriaid y capel—gŵr arianog— dyn blaenllaw yn y capel—wel, y fo oedd y pen-blaenor. Cnociodd Mari Dafydd yn wylaidd wrth y drws, a chafodd wel'd Mr. Hwn a Hwn, a dwedodd ei chwyn wrtho, ac meddai yntau,
"Does gen i ddim byd i chi, Mari Dafydd. Yr ydw i yn talu trethi mawr at gynal y tlodion; y peth gora fedrwch chi neud ydi myn'd i'r wyrcws.'
"Fedra i ddim myn'd yno heno, Mr. Hwn a Hwn, a 'does gen i ddim tamad at y fory, a thri o'r plant yn sâl, ne faswn i ddim yn dwad ar ych gofyn chi na neb arall."
Does gen i mo'r help am hyny; fedra i wneud dim i chwi."
Trodd Mari druan tua chartref gyda chalon drom; ond meddyliodd y troai i fewn i dŷ rhyw hen saer oedd yn byw ar y ffordd; aeth a dwedodd ei chŵyn wrth hwnw. 'Doedd hwnw ddim yn perthyn i grefydd mwy na minau. Cafodd ddysglaid o de poeth gan Mrs. Tomos, a thra yr oedd hi wrthi yn yfed y te yr oedd yr hen saer a'r wraig wrthi yn llanw basged efo bwyd iddi fyn'd adre. Dyna i ti, Ned, Samaritan digrefydd. P'run sydd fwya tebyg i fyn'd i'r nefoedd, ai yr hen saer yna neu Mr. Hwn a Hwn? Yr oedd plant Mari Dafydd yn well nos Sul, a thrwy fod cymydoges garedig wedi dyfod i aros efo'r plant aeth i'r capel. Yr oedd yno bregethwr da, a soniai lawer am drugaredd a dyledswydd crefyddwyr at rai oeddynt mewn profedigaethau, helbulon, a thlodi. Yn y seiat, cafodd Mari Dafydd y fraint o glywed Mr. Hwn a Hwn gyda thon wylofus, a dagra heilltion ar ei ruddiau yn adrodd darn or