Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/49

Gwirwyd y dudalen hon

bregeth ac yn annog i haelioni a thynerwch. Dyna i ti, Ned, rhyw betha fel yna fydd yn cledu fy nghalon i. Clywed am rai tua'r capeli yma yn son am diriondeb a thrugaredd, maddeugarwch a phethe fel yna, a dim yn ei actio fo eu hunain. Mewn llawer capel mae nhw yn deud wrtha i fod yno bobl yn cydocheneidio, yn cydorfoleddu, ac yn cydeistedd i fwyta y Sacramenta, ac na wna nhw ddim siarad efo eu gilydd ar y ffordd. Nid dyna wir grefydd. Ond fel y dudes i o'r blaen, Ned, y mae llawer iawn o bobl dda yn perthyn i'r Capeli, a'r Eglwys hefyd o ran hyny. Mae yma lawer yn yr ardal yma yn bregethwyr, yn bersoniaid, ac yn flaenoriaid, dynion ag y buasai yn dda gen i pe daswn i yn debyg iddynt. Rhaid i ti beidio meddwl fod gen i feddwl caled o grefydd, o nag oes; yr ydw i yn parchu crefydd a chrefyddwyr, ond y mae defaid duon yn perthyn i bob corlan; ond un braf ydw i ynte i'w pigo nhw allan.

Wel, ar ol clywed yr hen ôf yn siarad fel hyn, yr oeddwn yn teimlo yn sicr mod i wedi cael pregeth gwerth myn'd i'w gwrando, ac y buasai yn llawer ffitiach yn lle bod Ned Ffowc wedi myn'd at yr hen ôf ffraeth a doniol, pe buasai y gôf wedi myn'd i gynghori tipyn arno ef.