Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/50

Gwirwyd y dudalen hon

ADGOFION AM Y BALA.

I. RHAGYMADRODD.


IE, "Y" Bala; nid Bala, ond "Y" Bala. Mae yn rhaid cael y llythyren "Y" i ddangos pwysigrwydd yr hen dref sydd yn gorwedd yn dawel yn




nghesail y bryniau ac ar lan Llyn Tegid. Ni ddywedir "Y" Corwen,"Y" Dolgellau, nag "Y" Llanuwchllyn. Nid ydyw Llundain, Rhydychain, nag hyd yn oed Bangor fawr ei breintiau, yn ddigon enwog i gael Omega y wyddor Gymreig i ddangos ei phwysigrwydd. Dyna oedd ein syniad ni blant y Bala ddeugain mlynedd yn ol, pan yn chwareu ar y Green gysegredig, y