Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/51

Gwirwyd y dudalen hon

Domen Rufeinig, ac ar lan Môr Canoldir Meirion(Llyn Tegid). Ac yn wir dyna yw ein syniad ni heddyw, pan y mae y pren almon wedi dechreu blodeuo a cheiliog y rhedyn yn faich. Y mae son fod pobl Llundain yn bwriadu boddi y Bala gyda dwfr yr Aran a'r Arennig a'r Berwyn, er mwyn tori eu syched, ac felly wirio prophwydoliaeth Robin Ddu y cyntaf, ganrifoedd yn ol,—

"Bala aeth, a Bala aiff,
 A Llanfor aiff yn llyn."

Y mae yn anhawdd genyf gredu y cymer y drychineb hon le; ond os boddir tref y Bala, ni ddileir ei henw hyd oni ddywedir,—

"Yr Aran a'r Wyddfa gyrhaeddfawr
 A neidiant yn awr hyd y Ne'."

Rhag ofn y digwydd i ddiluw Penllyn gymeryd lle o fewn y ganrif hon, yr wyf am gymeryd tipyn o le i roddi ar gof a chadw ychydig hanes hen lanerch sydd. mor anwyl gan filoedd o Gymry yn mhob cwr o'r byd. Y mae cymaint o adgofion yn ymgymell i fy meddwl, nas gwn yn iawn pa le i ddechreu. Efallai nas gallaf ddechreu mewn lle gwell nag yn

II. HEN GAPEL Y BALA,

Capel Bethel, neu y capel mawr fel ei gelwid gan bobl y wlad. Hen gapel hanesyddol ydoedd, capel Thomas Charles, Simon Llwyd, John ac Enoc Evans, a Dafydd Cadwalad. Cof genyf fy mod yn dechreu myned i'r capel yn ieuanc iawn.

Yr oedd ein set ar ymyl y gallery, y cloc ar y llaw dde. Eisteddai yn y set agosaf, ar y llaw chwith, fachgen bychan tua'r un oed a minau, orŵyr i Dafydd Cadwalad, sef y Parchedig Dad Jones, yn awr offeiriad Pabaidd yn Nghaernarfon, boneddwr a berchir yn fawr yn y dref gan wreng a bonedd. Capel mawr ysgwar, hen ffasiwn, oedd capel y Bala, capel llawer haws gwrando a phregethu ynddo, medd y rhai sydd yn