gwybod, na'r capel newydd. Safai y pwlpud rhwng y ddau ddrws—pwlpud mawr, digon o le ynddo i gynwys tri o bregethwyr mwyaf corphorol y Corph. Yr oedd y set fawr (yr allor) yn fawr mewn gwirionedd cyn iddi gael ei hail wneyd i gyfarfod ag oes mwy ffasiynol. Yr oedd digon o le ynddi i gynal dwsin o flaenoriaid, ond pedwar o wŷr da eu gair oedd wedi bod o dan y corn olew yr adeg yr ydwyf yn ysgrifenu yn ei gylch; sef William Edward, yr emynwr; Hugh Hughes, Tan'rhol, tad y gŵr anwyl Doctor Roger Hughes; Jacob Jones, tad y boneddwr o'r un enw o'r Rhyl; a Griffith Jones, cyfrwywr, wedi hyny arianydd. Ychydig gof sydd genyf am Hugh Hughes; a'r unig gof sydd genyf am William Edward yw fy mod wedi dysgu ei hen benill anwyl ar ei lin,—
"Mae munud o edrych ar aberth y groes
Yn tawel ddistewi môr tonog fy oes,"
Ar law chwith y pregethwr eisteddai Lewis Edwards (Dr. Edwards), ac yn y gornel ar y llaw dde eisteddai Benjamin Griffiths, factotum y capel,—gwneuthurwr menyg lledr o ran galwedigaeth. Ond treuliai fwy o'i amser yn y capel ac yn stabal y capel i ofalu am geffylau y cenhadon hedd a ddelent ar eu tro i'r Bala, nag a wnai gyda'r edau a nodwydd a chroen myn gafr. Hen wr tal, boneddigaidd yr olwg arno oedd Benjamin, nid anhebyg i'r Parch. Henry Rees. Un o oruchwylion ereill Benjamin fyddai gofalu am oleuo y capel. Goleuid y capel â chanhwyllau. Yr oedd yno dair seren (chandelier),—un fawr ar ganol y capel, ac un lai bob ochr i'r gallery. Cynorthwyid ef gan Evan Owen,—tad gweinidog poblogaidd Tanygrisiau, Ffestiniog, hen wr doniol, duwiol, a diddan, un a gerid ac a berchid gan bawb. Un o'n hoff bleserau ni y plant yn misoedd Ebrill a Medi, pan y byddid yn goleuo y canhwyllau ar ol dechreu yr oedfa, fyddai edrych ar Benjamin Griffiths ac Evan Owen yn goleu y canhwyllau, a chael gwel'd pwy a'i drwy ei waith gyntaf. Benjamin a