ystyriai ei hunan yn fwyaf teilwng i oleu canhwyllau y pwlpud a'r "seren fawr," tra y byddai Evan Owen yn goleu y cyntedd nesaf allan a'r grisiau, a dyddorol oedd i ni y plant sylwi pa un o'r ddau gyrhaeddai "ser" y gallery gyntaf. Daw un tro rhyfedd i'm cof. Yr oedd Richard Humphreys y Dyffryn yn pregethu, a phan oedd y capel yn cael ei oleuo cyn dechreu y bregeth, rhoddodd yr hen benill hwnw allan i ganu,—
"Diolch i ti, yr Hollalluog Dduw,
Am yr efengyl sanctaidd .
Pan oeddym ni mewn carchar tywyll du
Rho'ist i'n oleuni nefol."
Dyblwyd a threblwyd yr hen benill nes bu bron iddi fyn'd yn orfoledd. Yr oedd Benjamin erbyn hyn wedi dechreu goleu "seren y llofft," ond wedi myn'd i'r hwyl wrth ganu
"Rho'ist i'n oleuni,"
ac yn cadw amser gyda'r taper wêr oedd ganddo yn ei law. Eisteddai hen wr ffraeth o dan y "seren," a chododd i fyny yn sydyn a throdd at Benjamin, gan ddweyd: "Yma chi, Benjamin Griffiths, yr ydech chi yn colli gwêr am fy mhen i." Bu agos i mi anghofio dweyd mai yn y set fawr hefyd, y gornel agosaf i'r llawr, ar ochr dde y pwlpud, yr eisteddai y pencantwr Rolant Hugh Pritchard. Yr oedd yn gerddor rhagorol, a gwelir rhai tonau o'i eiddo yn "Llyfr Tonau Ieuan Gwyllt;" ond yr oedd yn un touchy ddychrynllyd, fel y mae y rhan fwyaf o arweinyddion y gân—maddeuant i mi am ddweyd y gwir.
Jacob Jones oedd y pen blaenor, ac iddo ef y disgynai y swydd bwysig o gyhoeddi yr odfaon, swydd neillduol o bwysig y dyddiau hyny. Cyfarfod gweddi nos yforu am saith, seiat nos Fercher am saith, a'r seiat bach am chwech nos Wener." Ar ol myn'd trwy y rhan arweiniol pesychai yr hen flaenor duwiol, a dyma bawb yn estyn eu gyddfau ac yn rhoddi eu